Ie, heddiw yw fy mhenblwydd. Na, dw i ddim yn dweud fy oed. Ac, os wyt ti’n nabod fi a gwybod fy oed, paid dweud! Dw i wedi anghofio’r wybodaeth ‘na – wel, dw i’n ceisio i anghofio beth bynnag.
Yfory, dw i’n bant i Harlech i’r Arbrawf Mawr. Dw i’n edrych ymlaen at hynny yn fawr. Mae Jonathan a’i wraig yn dod o Derby. Dw i ddim wedi eu gweld nhw ers amryw fisoedd a bydd e’n dda iawn eu gweld nhw eto. Mae Jonathan yn chwarae flute ac acordion (ac offerynnau eraill, mae’n debyg) ac mae e arfer chwarae gyda ni yn nosau cerddoriaeth werin Cymraeg Nhŷ Tawe cyn iddyn nhw symud un ôl i Derby.
Dw i’n meddwl y bydd y daith ‘ma’n herio achos bydd y rhan fwyaf pobol yn siarad Cymraeg trwy’r amser. Felly dw i’n mynd ceisio i wneud yr un. Bydd hynny yn anodd i fi achos dw i ddim yn gwybod llawer o eiriau. Ond, caf i lawer o hwyl cwrdd â phobol newydd a siarad Cymraeg â nhw felly dw i ddim rhy becso amdano fe. Bydd e’n ymarfer da iawn a bydda i’n gallu dysgu mwy cerddoriaeth werin Cymraeg. Felly mae e’n benwythnos ennill-ennill fel bydda i’n gallu gwneud dwy peth bod i’n caru ar yr un pryd.
Penblwydd hapus!
A phaid poeni, dw i wedi dechrau anghofio fy oedran i, hefyd. Weithiau mae rhaid i fi weithio fe mas, gan dynnu blwyddyn fy mebyd o 2008.
Wyt ti mor hen â hynny? 😉
Diolch yn fawr. :O)
Haha – wel…… dim ond dyn ni’n dweud bod i’n gweithio at ail-byw fy 30’s i nawr.
Penblwydd hapus i ti Peggi. Mwynha’r penwythnos. Dweda Helo wrth Jonathan drosta i.
Mwa-ha-ha-haaaaa. Gwn i dy oed di! Oce, dw i ddim yn dweud. Am nawr . . . 😉
Penblwydd hapus i ti!!
Diolch yn fawr, Emma, bydda i’n gwneud hynny i ti. A hefyd, diolch i ti Sionned. Neis clywed ohonot ti – roeddwn i’n meddwl bod ti’n dal teithio.
Pen-blwydd hapus yn 21!
Daethon ni adre ddoe. Neu echdoe? Pnawn Llun. Roedden ni wedi bod yn cysgu llawer iawn…
Diolch yn fawr, Huw. Compliments like that will get you everywhere!
Croeso yn ôl, Sionned – bydd rhaid i ti ddweud wrtha i am dy daith di pan mae amser ‘da ti.
Pen blwydd hapus (tipyn o hwyr, sori)!
Braidd yn hwyr ond penblydd hapus!