Dw i’n meddwl bod Warren Gatland yn dweud popeth pan ddywedodd e “I’m furious” ddoe.
Es i i Dŷ Tawe i edrych ar y gêm Cymru v Dde Affrica prynhawn ddoe. Dw i’n credu bod nhw’n ceisio ond, i fy meddwl, roedd llawer o leoedd ble dylai Cymru wedi gwneud yn well. Fel dw i wedi dweud o’r blaen, mae sgiliau a thalent ‘da ni, dim ond dyn ni ddim yn defnyddio nhw mor iawn a gallen ni!
Ffeindiais i fy hunan yn meddwl ‘Pam ydy e’n cicio? Pam dim rhedeg y bêl?’ A chwaraewyr ymosodgar yw De Affrica felly, dw i’n credu, rhaid i chi chwarae’r un ffordd, iawn?
Beth bynnag, roedd e’n hwyl i edrych ar y gêm gyda ffrindiau ar sgrin fawr. Gwnaethon nhw geisio, a doedd y sgôr ddim yn ddrwg. Byddai e wedi bod neis i ennill, er hynny. :O(
roedd llawer o leoedd ble dylai Cymru wedi gwneud yn well.
Ie, y hanner gyntaf i gyd, er enghraifft.
Wel, doedd pethau ddim yn ddrwg i gyd i Gymru ddoe….oleiaf ddaru Joe ennill ! 🙂