Cockles a Laverbread

Mae cockles a laverbread yn dda iawn!  Neithiwr cynhaliwyd cinio Nadolig y Merched y Wawr.  Aethon ni i’r Fountain Inn ym Mhontarddulais.  Roedd y bwyd yn dda, cockles i’r cwrs cyntaf i fi, Delyth a Elid.  Roedd y prif gwrs i fi yn gyw iâr wedi ei stwffio â caws (Bleu Cheese, credu) a phlât caws Cymreig,  ffrwyth a bisgedi i bwdin.  Fel arfer, roedd Amanda yn westeiwraig berffaith.  Dw i wastad mwynhau cyfarfodydd Merched y Wawr.  Maen nhw’n grŵp neis o bobl.  Dymunaf y gallwn siarad Cymraeg yn well achos dywedais yn Saesneg weithiau.  Ond mae merched yn amyneddgar â fi, felly, dw i’n trial dweud cymaint â phosibl yn y Gymraeg.

Ond ro’n i wedi blino neithiwr achos yn y prynhawn ddoe, roedd rhaid i wneud fy olaf araith i’r dosbarth Ymarfer Iaith.  Whew!  Dw i’n hapus i fod gorffen â hynny!  Ond dw i’n falch o’m hunan achos bod i’n gallu gwneud yr hollol araith heb gamgymeriadau!  I’r tro cyntaf erioed!  Yn drist, anghofiais i newid y sleidiau PowerPoint felly gwnes bopeth heb y slideshow.  Roedd ofnadwy i sylweddoli ar gwblhad bod i wedi anghofio newid y sleidiau, gallaf ddweud wrthoch chi!  Ond roedd Dr. Thomas yn dda amdano.  Dywedodd roedd yr araith yn y rhan bwysig so paid â becso.  Bydda i’n becso beth bynnag wrth gwrs.

Y peth arall wedi ei digwydd ddoe oedd yn ddweud ffarwel wrth Christine James fel eu hathrawes Ysgrifennu Creadigol.  Dw i’n credu bod pawb yn drist i ddweud ‘goodbye’ achos bod ni wedi mwynhau’r dosbarth yn fawr.  Bydd Tudur Hallam yn dysgu’r ail dymor.  Ond fydd e ddim yr un, dw i’n credu.  Mae dim ond pum merch yn y dosbarth felly roedd neis i gael athrawes.  Beth bynnag, roedd dosbarth olaf neis iawn – aethon ni i Daliesin i goffi a dosbarth.  Dw i wedi dysgu llawer am ysgrifennu o Christine James.

Felly, mae dim ond dau ddosbarth yn aros yr wythnos ‘ma a dyn ni’n cwpla gyda’r tymor cyntaf.  Gads – mae amser wedi hedfan!

Ymlacio – ie!

Yn olaf, ar ôl haf ofnadwy, roeddwn i’n gallu ymlacio tipyn bach.  Dros y penwythnos es i’r Gŵyl Glyndŵr yn Abercraf.  Bendigedig iawn iawn!

P9192513

Dw i ddim yn credu roedd cymaint pebyll â’r llynedd.  Wel, byddai e’n gwella i ddweud dim cymaint bwyd.  Yn bendant, roedd mwy cerddoriaeth côr na’r llynedd.

Cwrddais â Allison ar ôl Siop Siarad yn y bore.  Ar ôl i ni ffeindio’r babell cwrw, ffeindion Yr Alltud a threulion amser gwrando arnyn nhw.  Roedd mor hyfryd i eistedd yn yr heulwen, yn yfed cwrw, gwrando ar ffrindiau’n canu cerddoriaeth werin.  Roedd llawer o bobol yn stopio i wrando hefyd – roedd pawb yn mwynhau’r gerddoriaeth.

Yr Alltud

Yr Alltud

Ar ôl am dipyn, penderfynodd Allison a fi edrych o gwmpas y safle felly cerddon i’r gwersyllfan canoloesol ble cwrddon ni â dau ddyn a gwisgo fel marchogion.  Dywedon nhw wrthon ni am fywyd yn adegau canoloesol.  Wedyn, dw i ddim eithaf siŵr shwd, roedden nhw’n gwisgo fi yn ddillad canoloesol!  O fy!  Dywedon nhw ‘look mean’.  Ond roeddwn i’n chwerthin rhy galed – roedd amhosib.

Owain Glyndŵr

Owain Glyndŵr

Cyn i ni adael, daeth Owain Glyndŵr.  Felly, roedd hynny yn tidy hefyd.  A throdd y prynhawn neis i mewn noswaith yn wych fel cafodd mwy cerddoriaeth ei chanu, ac aethon ni i beint (neu dau) yn y pub.

Arbennig oedd y diwrnod i fi – roedd e’n hyfryd i ymlacio â ffrindiau heb fecso am unrhywbeth am dibyn.  Mwynheais fy hunan yn fawr.

Diwrnod Hwyl ym Mhontypridd

Prynhawn ddoe es i Bontypridd.  Dw i wedi bod i Rydyfelin, ar bwys Ponty, ond dim i Bonty go iawn.  Felly dywedodd Annamarie “Dewch lan heddiw a byddwn ni’n gwneud Ponty.”

Mae ‘r Afon Taf yn llifo yn gyflym, i fod siŵr…

P8260239
…ac er gwaeth o’r glaw, gallais dynnu llun o’r bont.

P8260238

Aethon ni ymweld â fy ffrindiau, Ann a Maldwyn yn Siop y Bont felly gallais siarad yn Gymraeg gyda nhw.  Cwrddais â pherson newydd yna hefyd.  Mae hi’n dysgu Cymraeg i blant.  Felly, fel gwastad, roedd neis yn siarad Cymraeg gyda pherson newydd.  Arbennig fel doeddwn i ddim yn ffeindio unrhywun eraill sy’n siarad Cymraeg.  :O(

Siop-y-Bont

Siop-y-Bont

O yna, aethon ni siopa a cherddon ni o gwmpas y dre.  Mae Annamarie yn gwybod llawer o hanes Pontypridd felly adweinyddes daith dda iawn yw hi.  Dywedon ni am y ffynnon yn y dre ble roedden nhw arfer rhoi dŵr i’r ceffylau.  Mae ffynnon hyfryd gydag idiomau yn Gymraeg yn eu cerfio yn y maen.

ffynnon

Meddyliais fod e’n ddiddorol – y ddraig goch A’R ddraig wen.  Byddwn i wedi disgwyl dim ond y ddraig goch.

P8260248

P8260250

Mae llawer o siopau a ‘cafés’ ym Mhontypridd:

P8260243

Siopau

Hefyd, mae llawer o hen adeiladau hyfryd:

P8260257

O’r diwedd, cwrddon ni â Diana yn Alfreds i diodydd a chinio.  Bwyd yn fendigedig!

Erm……,

Wel, dw i ddim yn gwybod beth i wneud gyda fy hunan. Does dim rygbi Six Nations a dw i ddim yn gallu ei weld gêm Y Gweilch heddiw. :O(

Felly, ar ôl i Dŷ Tawe bore ‘ma, es i i MacDonalds. Gwn, gwn ‘Ych-y-fi’!! Ond roeddwn i’n rhwystredig a doeddwn i wedi angen ‘junk food’ neu siocled. Wel, roedd amser cinio felly MacDonalds roedd e.

Hefyd, gwaeth eto, ces i dorri fy ngwallt. Wrth gwrs, fydd e ddim yn gwneud DIM BYD. Na, dyw hynny ddim yn gywir. Bydd e’n edrych gwyllt. Cyrhaeddais i at Dŷ Tawe edrych fel y ‘Wreck of the Hesperus’ a doedd dim byd y gallwn i wneud amdano fe!

Wel, gwnaeth y MacDonalds dim byd ond cynhyrfu fy stumog a gwna fi’n teimlo tew. Doedd e ddim yn helpu fy ngwallt chwaith! (Euogrwydd efallai? Dylwn i wedi dewis y siocled, byddwn i wedi bod hapusach. Byddwn i’n dal teimlo euogrwydd a thew gyda gwallt gwyllt. Ond hapusach. :O)

Beth bynnag, dw i wedi bod moyn ci ac achos doeddwn i ddim moyn eistedd o’r tŷ cwmpas yn teimlo tew, penderfynais i fynd i’r RSPCA ac edrych ar y cŵn.

Wrth gwrs, trodd hynny i mewn i anturiaeth fel doeddwn i ddim yn gwybod ble roeddwn i’n mynd (fel arfer). Ond yn y diwedd, cyrhaeddais i ar ôl i fi yrru o gwmpas yn gylchau i’r awr o fwy.

Na, doeddwn i ddim yn ffeindio ci. Ond cwrddais i â gwraig neis. Dyn ni’n sgwrs a phenderfynon ni i gyfarfod i bryd o fwyd un dydd. Does dim partner gyda hi chwaith, a dyn ni’n ymuno bod e’n ddim hwyl yn ceisio i wneud popeth unig drwy’r amser.

Felly, dim ci ond ffrind newydd. Mae e wedi bod diwrnod da iawn wedi’r cyfan. A bydd fy ngwallt yn tyfu mas….yn fuan gobeithio!

Bag Cymysg

Rhaid i fi ddweud, rwy i wedi cael cymaint hwyl nos Wener. Roedd e’n barti Nadolig Tŷ Tawe. Rwy’n nabod ychydig o bobol nawr ac mae pawb yn gywir, rwy’n deall mwy nawr ac rwy’n teimlo mwy ffyddiog pan defnyddio’r iaith. Rwy’n siarad yn holl frawddegau o bryd i’w gilydd! dancing smilie Pan wnes i hynny, mae e’n ‘blows my mind’. Dw i ddim yn gallu disgrifio sut mae e’n teimlo – y fath uchel emosiynol.

A’r canu! O fy! Ar ôl i Heather Jones orffen yn perfformio, aethon ni i mewn i’r bar. Aethon ni’n sgwrsio ag ein gilydd pan ddechreuodd dyn canu Siôn Corn (dw i ddim yn gwybod ei enw e). Mae llais disglair gyda fe. Aeth pawb ymuno â chytgan – hyd yn oed fi! Allwch chi ddychmygu? Mae fi yn canu yn Gymraeg! Roedd e’n wych. clapping smilie

Ond dydd Sadwrn, es i ddioddef gan hiraeth. Mae e’n anodd fod heb deulu yn Nadolig. Felly, pobiais cookies Nadolig yn y prynhawn a chawl taten/cenhinen i swper. Teimlais i well wedyn.

Rwy’n meddwl y ar ôl i Iau a Gwener, rwy’n benderfynol na byth i ddysgu geirfa newydd a mynychu digwyddiad Cymraeg. Os oedd un dymuniad Nadolig ‘da fi, os byddai e’n siarad Cymraeg yn rhugl. (Wel, hynny a Chymraeg Cymro i siarad â… laughing smilie )

Rygbi a dydd Sadwrn

Roedd diwrnod rygbi yn siomedig. Mewn gwirionedd, roedd e wedi penwythnos yn siomedig am fy hoff timau rygbi. Collodd Y Gweilch dydd Gwener a nawr Cymru heddiw. Roedd gornest anodd, bod siŵr, a rhodd ein llanciau ni ymdrech da. Er cafodd Cymru chwarae gwell.

Er gwaetha hynny, ces i ddiwrnod iawn heddiw. Daeth fy ffrind Clive o Yorkshire i Sgeti i gael cinio gyda fi. Rydyn ni wedi nabod ein gilydd am bum mlynedd ond dyn ni byth wedi cwrdd. Gyrrodd e lawr o Yorkshire heddiw i gwrdd â fi ac aethon ni i ginio yn lleol tafarn. Dyn ni wedi cael sgwrs neis a bwyd da. Mae e’n hyfryd a mwynhais fy hunan llawer iawn.

Nawr heno, rwy’n mynd i’r cyngerdd gan Catrin Finch. Mae’r tywydd yn ofnadwy ond rwy’n edrych ymlaen at y gerddoriaeth a noswaith allan.

Digon!

Ocê, dyna ddigon am fi a fy mhroblemau! :O)

Roedd tywydd yn ofnadwy heddiw – oer ac llywd.

Roeddwn wedi blino o fod i mewn i’r tŷ. Felly gyrrais i Killay yn y gobeithion o’n ffeindio padell bara. Mae dim ond dwy filltir o fy nhŷ. Mae e’n pentref bach hyfryd ac mae siopau ac dau popty ‘da fe. Dim padellau bara, er hynny. Ond cerddais o gwmpus y pentref a phrynais bara cenhinen a chaws ffres – gwych!

Fel dywedais ar flog FforwmGymru, mae’r llysiau Cymreig yn wych a dyna siop llysiau ffres/deli yn Killay. Rhaid i fi siarad, mae’r llysiau Cymreig yn rhoi y llysiau Califfornia i gywilydd – da iawn ffermwyr Cymreig! Dyw hynny ddim yn hawdd i wneud!

Felly, mae hi’n diwrnod da heddiw, er gwaetha’r tywydd.

Nawr rhaid i fi astudio y penwythnos ‘ma – prawf treiglad ar ddydd Llun – cynnar am 9:00 o’r gloch, ych-y-fi! Ond rwy’n hoffi treigladau felly so i’n meddwl.  :O)