Wel……….

Ocê, dw i’n cyfaddef bod e’n anodd aros bant o’r blog. Yn enwedig ar ôl dwy noson ardderchog o gerddoriaeth werin. Ro’n nhw’n rhy da DIM ysgrifennu amdanyn.

Yn amlwg, dw i’n teimlo’n well ac mae Sha Nôl, Sha Mlân dros y penwythnos wedi helpu’n fawr iawn.  Mae cerddoriaeth werin Gymraeg wastad gwneud fi i deimlo’n dda.

Trefnodd Geraint Roberts y digwyddiad eto eleni ac, os unrhywbeth, roedd e’n well na’r llynedd.

Nos Wener, aethon ni i Ystalyfera yng Nghwm Tawe Uchaf a chwrdd yn t tafarn Wern Fawr.  Roedd llawer o gerddorion a llawer o offerynnau gwahanol draw dwy ystafell.  Cerddoriaeth dda a chwmni da.  Mae tafarn yn diddorol iawn hefyd.  Ar y nenfwd ac y waliau, mae hen offer glo.

Neithiwr, symudodd bopeth i Merlins yn Ystradgynlais – jyst lan y ffordd o Ystalyfera.  Eto, roedd cwmni’n dda a llawer o gerddorion talentog.  Daeth rhyw o’r un bobl fel Ystalyfera ychwaneg rhyw bobl newydd.  Daeth pobl o Abertawe a chanol Cymru – hyn yn oed Lloegr ac America!  (Arall na fi.)

Dw i’n mwynhau ymweld ag Ystalyfera ac Ystradgynlais erioed.  Mae ardal neis ac mae llawer o bobl yna yn siarad Cymraeg.  Jyst lle neis i fod a dim eithriad oedd y penwythnos ‘ma.

Bendigedig Iawn Iawn

Ac mae hyn yn y rheswm dw i’n caru Cymru!

Neithiwr es i Aberpennar chwarae cerddoriaeth werin gyda Geraint, Tracy a rhai o bobol arall o Ferthyr.  Wrth gwrs anghofiais ysgrifennu lawr yr enw tafarn.

Ro’n i’n meddwl ‘Fydd Aberpennar ddim yn fod mawr iawn siŵr o fod.  Dim ond un neu dau dafarn, reit?  Dim problem, bydda i’n ffeindio nhw.  Bydda i’n tecstio at Geraint pan cyrhaeddaf.”  Felly, bant es i am 7:30 yh.

Naddo.  Mae llawer o dafarnau yn Aberpennar.  Llawer!

Wel, yn amser da, cyrhaeddais yn Aberpennar.  Tecstiais at Geraint a gyrrais i mewn i ganol y ddinas a ffeindiais dafarn prysur.  Roedd grŵp o ferched yn cerdded i’r tafarn felly stopiais i ofyn am y tafarn.  Mae un o’r ferch yn siarad Cymraeg felly roedd hynny yn wych iawn!  Rhodd hi wybodaeth a chyfarwyddiadau yn Gymraeg.  “Os dych chi ddim yn ffeindio nhw, dewch yn ôl a ymunwch â ni i ddiod,” dywedodd hi.  Hyfryd iawn!

Dywedais ‘diolch yn fawr iawn’ ac es i’n ôl dros y bont a ffeindiais y maes parcio soniodd amdano heb broblem.  Gyda gitâr ar fy nghefn, dechreuais bant ffeindio’r tri thafarn soniodd amdano hefyd.

Roedd y stryd yn dywyll iawn a dim llawer o bobol yna.  Roedd e’n dangos fel cymdogaeth breswyl.  Ond, mae e’n edrych fel hynny yn Ystradfera hefyd felly parheais ymlaen.

Roedd cwpl yn cerdded lawr y stryd ata i.  Felly gofynnais iddyn nhw am y tafarnau.  Mwy defnyddiol roedden nhw.  Eithaf neis hefyd.  Roedden ni’n sgwrs tipyn bach a pharheais lan y bryn (stryd).

Wedyn, ar ôl tro byr, cyrhaeddais yn dafarn y cyntaf.  Roedd gwraig yn sefyll tu mas y drws.  Gofynais iddi hi os roedd gwrp cerddoriaeth werin tu mewn.  ‘Na’, meddai hi.  Ond dechreuon ni sgwrs – roedd twym neithiwr – hyd yn oed ar ôl tywyll.  Felly, safan ni tu mas yn siarad am hyn y hynny. Cawson ni dro ardderchog!

Beth bynnag, dywedodd hi ‘Paid â becso am y tafarn nesaf – dim byd yna.  Ond efallai’r un drws nesaf iddo fe’.  Dywedais ‘hwyl’ a mynd i’r tafarn nesaf.

Dim tafarn cywir ond dywedodd y dyn a merch yn sefyll tu mas ‘you can sing in here if you want’.

Hyfryd!

Ond dim diolch – dw i ddim yn barod i fynd solo. 

Felly, dywedais ‘na, diolch’ ac es i yn ôl i’r car.  Ar y ffordd yn ôl i’r car, cwrddais â’r wraig o tafarn y cyntaf.  Daeth hi yn ôl tu mas gyda chwpl o bobol eraill i ffeindio fi.  Dyn nhw wedi bod gofyn tu mewn ac roedd rhywun yn gwybod am y gig dros y pentref.  Dywedon nhw i fynd yn ôl drwy ganol y ddinas i’r clwb Nixon.  Roedd cerddoriaeth werin yna.

Gwych!

Yn y Clwb Nixon, cwrddais â mwy pobol neis ond dim Geraint a Thracy.  Felly, o’r diwedd, rhois y ffidil yn y to, gadais neges at Geraint ac es i yn ôl adre.  Ond roedd taith yn wych a mwyheais fy hunan yn fawr.  Cwrddais â llawer o bobol newydd, pobol neis a ffeindiais ffordd newydd i fynd i dai Annamarie a Diana yn Rhydyfelen.

Nes ymlaen, galwodd Tracy.  Does dim ‘reception’ ffôn symudol yn y tafarn.  Felly, doedden nhw ddim yn derbyn fy neges tan rhy hwyr.  Er hynny, dw i wedi gyrru heibio’r tafarn dwywaith!  O wel, tro nesaf.  Fydda i ddim yn anghofio ysgrifennu’r enw eto.

Yn y cyfamser, roedd profiad cofiadwy arbennig achos bod e’n ail-cadarnhau (reaffirm?) y pethau dw i’n caru mwyaf am Gymru – y bobol a’r diwylliant.

Tyrfe Bach 2010

Y wythnos diwethaf oedd Tyrfe Bach 2010.  Dechreodd y dathliad nos Fercher gyda Noel James i noson comedi yn Nhŷ Tawe.  Roedd Noel yn ddoniol iawn a hefyd, dw i’n falch dweud bod i bron gallu deall popeth dywedodd!  Ardderchog.

Doeddwn i ddim yn gallu mynd y bore yn dilyn i Delyth Jenkin yn chware ei thelyn.  Ond roeddwn i’n gallu mynd nos Wener am noson werin.  Noson swynol oedd hi!

Roedd fy ffrindiau, Yr Alltud, yn perfformio cyntaf.  Gwnaethon nhw fendigedig.

Yr Alltud

Yr Alltud yn canu yn Tyrfe Bach 2010

Chwaraeodd cerddorion ardderchog eraill hefyd y nos ‘na.  Felly, roedd llawer o dalent yn Nhŷ Tawe’r nos ‘na.

Ar ôl i gerddorion gwadd chwarae, agorwyd y sesiwn i bawb – un sesiwn jamo enfawr.  O, llawer o hwyl!  Wrth gwrs canais fy ngitâr ac ymunodd pawb â gyda’i gilydd.  Roedd cerddoriaeth yn wych a chwaraeon ni am oriau.  Dw i’n dal ffeindio cerddoriaeth werin Gymreig yn anfon fy enaid yn esgyn felly, dw i’n hapus chwarae pa bryd bynnag gallaf.

Daeth nos Sadwrn â cherddorion i’R Vault yn The No Sign Wine Bar.  Eto, roedd llawer o gerddoriaeth yn dda (rock y tro ‘ma er hynny) a mwynhaodd pawb.

Nawr dw i’n edrych ymlaen at y Tyrfe Tawe nesaf.  Hydref 14-16 eleni bydd hi.  Gobeithio’r bydd pawb yn ceisio mynychu – mae hi’n llawer o  hwyl.  Bydd y manylion yn cael ei chyhoeddi ar wefan Menter Iaith Abertawe.

Bydd mis Hydref yn wych – bydd sesiwn nesaf o  Sha Nôl, Sha Mlân dros y penwythnos 29/30/31 hefyd.  Dymunaf y byddai hi’n yfory – dw i’n moyn canu eto yn barod!

Telyn

Es i Landysul bore ‘ma i gasglu fy nhelyn werin newydd.  Roeddwn i mor gyffrous!  Roedd tywyll hyfryd iawn i’r daith, dim traffig o gwbl chwaith!  A doeddwn i ddim ar goll cyn i fi gyrraedd yna.  Unwaith yna, ni allais ffeindio Telynau Teifi, er hynny.  Mae’r gweithdy ar ben y bryn yng nghanol y dref ond does dim arwyddion rhywle (golygfeydd bendigedig iawn iawn o’r ffenestri).  Felly, gyrrais y ffordd anghywir, wrth gwrs.  Ffyrdd ffermydd neis o gwmpas yr ardal ‘na.  Cul, er hynny.  Mae peth yn dda bod i’n dda iawn yn bacio nawr.
:O)

Llandysul

Llandysul

Dim ots, mae maes parcio neis yn Llandysul – am ddim hefyd!  Felly parciais y car ac es i swyddfa cyngor ar bwys.  Roedd dwy wraig tu mewn yn cynnal sgwrs yn Gymraeg.  Does dim eisiau arna i ddweud bod i’n chuffed to bits.  Gofynnais iddyn nhw “Ble mae Telynau Teifi? Dw i’n ceisio ffeindio nhw.  Dych chi’n gwybod?”  Roedden nhw’n esbonio’r ffordd i’r gweithdy felly gallais ffeindio heb broblem ar ôl hynny. Mwynheuon ni sgwrs hyfryd cyn i fi adael ac, o’r diwedd, es i bant cerdded lan y bryn.

Yr eglwys ar bwys y maes parcio.

Pan gyrhaeddais yn y gweithdy, roeddwn i’n gallu cwrdd â’r gwneuthurwyr telynau.  Dangosodd Justine pob lleoedd gwahanol ble maen nhw’n gweithio ar y telynau yn ystod y broses gynhyrchu i fi.  Maen nhw’n gwneud popeth ond y tannau yng ngweithdy y Teifi.

Roedden nhw’n recordio CD yna heddiw a gwahoddon nhw i fi aros a gwrando ar y sesiwn.

Ar ôl i fi dderbyn fy nhelyn, dangosodd un o’r gwneuthurwyr telynnau i fi’r ffordd tiwnio’r delyn a dysgodd Justine cân i fi.  Felly, nawr dw i’n gwybod un gân.  Yn barod! Gallais sgwrs â phobol yna yn Gymraeg hefyd, felly roedd hynny yn wych.

Bwyteais ginio neis iawn yn y dre.  Roedd Justine wedi dweud oedd deli Eidalaidd neis ar y stryd fawr felly es yna i Panini.  Eto, mae pob sy’n gweithio yna’n siarad Cymraeg.  Felly, roedd cyfle arall siarad Cymraeg.  Roeddwn i mor hapus achos bod un wraig yn dechrau siarad â fi yn Gymraeg cyntaf!  Woo hoo!

Roedd diwrnod hyfryd a nawr, dw i’n mynd canu fy nhelyn.

Siop Blodyn yn y dre.

Ymlacio – ie!

Yn olaf, ar ôl haf ofnadwy, roeddwn i’n gallu ymlacio tipyn bach.  Dros y penwythnos es i’r Gŵyl Glyndŵr yn Abercraf.  Bendigedig iawn iawn!

P9192513

Dw i ddim yn credu roedd cymaint pebyll â’r llynedd.  Wel, byddai e’n gwella i ddweud dim cymaint bwyd.  Yn bendant, roedd mwy cerddoriaeth côr na’r llynedd.

Cwrddais â Allison ar ôl Siop Siarad yn y bore.  Ar ôl i ni ffeindio’r babell cwrw, ffeindion Yr Alltud a threulion amser gwrando arnyn nhw.  Roedd mor hyfryd i eistedd yn yr heulwen, yn yfed cwrw, gwrando ar ffrindiau’n canu cerddoriaeth werin.  Roedd llawer o bobol yn stopio i wrando hefyd – roedd pawb yn mwynhau’r gerddoriaeth.

Yr Alltud

Yr Alltud

Ar ôl am dipyn, penderfynodd Allison a fi edrych o gwmpas y safle felly cerddon i’r gwersyllfan canoloesol ble cwrddon ni â dau ddyn a gwisgo fel marchogion.  Dywedon nhw wrthon ni am fywyd yn adegau canoloesol.  Wedyn, dw i ddim eithaf siŵr shwd, roedden nhw’n gwisgo fi yn ddillad canoloesol!  O fy!  Dywedon nhw ‘look mean’.  Ond roeddwn i’n chwerthin rhy galed – roedd amhosib.

Owain Glyndŵr

Owain Glyndŵr

Cyn i ni adael, daeth Owain Glyndŵr.  Felly, roedd hynny yn tidy hefyd.  A throdd y prynhawn neis i mewn noswaith yn wych fel cafodd mwy cerddoriaeth ei chanu, ac aethon ni i beint (neu dau) yn y pub.

Arbennig oedd y diwrnod i fi – roedd e’n hyfryd i ymlacio â ffrindiau heb fecso am unrhywbeth am dibyn.  Mwynheais fy hunan yn fawr.

Pethau a Stwff Eraill

Mae fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas arholiadau ar hyn o bryd.  Mae’n dangos bod popeth yn atgoffa fi am yr arholiadau.  Ffeindiaf fy hunan yn cysgu gyda hen hen hen dynion wedi marw a chath!  Shwd pathedig yw hynny?! Mae ychydig o dynion y hoffwn yn fy ngwely, i fod siŵr – yn drist, dim ond brodyr Morris a Williams Pantycelyn yw yna.  O ych-y-fi – dim fy math o gwbl! 

Gwaeth eto, maen nhw’n goresgyn pob agwedd o’m mywyd!  Es i Dŷ Tawe nos Wener i ganu – noswaith mas, iawn?  Canon ni rhai emynau, wrth gwrs.  Atgoffa oeddwn i o Bantycelyn.  O na!

Hefyd, mae rhywbeth rhyfedd am arholiadau, gawsoch chi’n sylwi?  Ar ôl arholiad Cymraeg Canol, rhedodd pob merch bod i’n nabod i’r siop siocled.  Doedd dim siocled yn aros yn Abertawe’r dydd ‘na, credu.

Bore ‘ma dihunais feddwl “Neis yw’r tywydd, beth gwnaf heddiw?  Dylwn i astudio gramadeg neu dreulio amser gyda mwy hen dynion? Bydd e’n Pantycelyn, y brodyr Morris neu JSL? A gyda phwy fydda i’n bwyta, ‘sgwn i?  Waldo Williams neu William Owen-Pughe.

Mor cyffrous yw fy mywyd. 

Well, how totally neat is this?!

Neithiwr ro’n i’n canu fy ngitâr yn Nhŷ Tawe gyda’r grŵp sesiwn bardd bach.  Yn anfoddus, cadwodd fy ngitâr fynd mas o diwn.  Wel, o’r diwedd nid allais ei thiwnio o gwbl.  Hefyd yn anfoddus, roedd fy ngitâr wedi torri!  Ych-y-fi.  Mae gwddf wedi tynnu mas o’r sawdl.  Peryglus iawn iawn achos gallai’r gwddf dorri bant.  Felly llaciais y tannau ac roedd rhaid i fi stopio canu i’r nos.  Bummer iawn iawn!!

Felly, prynhawn ‘ma, cymrais y gitâr i mewn y siop Rowlands.  Fel mae e’n troi mas,  ro’n i wedi bwrw’r pen ‘just right’ a roedd torri yn ei achos gan y bwrw cyfuno â thannau tyniant.  Ych-y-fi eto.

Rhoddodd dyn Rowlands i fi’r enw dyn yn Nhre Gŵyr sy’n trwsio gitarau.  Pan ffoniais, atebodd y peiriant ateb.  Saesneg a Chymraeg yw’r neges.  Wel, atebodd e cyn i fi allu gadael neges a dywedodd ‘dewch erbyn nawr a bydda i’n edrych arni hi i chi’ (yn Saesneg – dw i ddim yn dal siŵr o fy hunan dros y ffôn).

Pan gyrhaeddais, gofynnais iddo fe, “Dych chi’n siarad Cymraeg?”

“Ydw!”

“Gwych!!” atebais i a lansiais i mewn i draethawd am ddysgu Cymraeg.  Roedd sgwrs fendigedig achos bod e’n siarad â fi am ddysgu a siarad Cymraeg, yn byw yn America ac wedyn am drwsio’r gitâr.  Yr holl yn Gymraeg!

Wel, ro’n i’n chuffed to bits arbennig achos bod i’n gallu deall bron popeth AC mae e’n gallu trwsio’r gitâr.

Felly, er gwaethaf amgylchiadau yn ddrwg, roedd ochr cadarnhaol hefyd.

Nawr os gallaf basio’r arholiad Cymraeg Canol bore Llun, bydda i’n person hapus iawn iawn.