Ffŵy!

‘Americanism’ yw ffŵy (phooey).  Mae e’n ystyr “Nuts, I thought I had it but turns out I didn’t”.

Mae pobol yn dweud wrtha i, trwy’r amser, “Oh Welsh is a hard language to learn.”  Wel, ydy.  Ond dyw hi ddim yn llawer o fwy anodd na unrhyw iaith arall, credu.

Er hynny, beth YW anodd yw siarad.  Ddoe, bwyteais ginio gyda ffrind.  Daeth â ffrind arall ac roeddwn i’n siarad gyda’n ddau yn Gymraeg.  Dim problem o gwbl.  Roeddwn i’n cynnal sgyrsiau cymhleth â nhw hefyd!  Nawr heddiw, dw i ddim yn gallu siarad fy nihangfa rhag bag papur! Bore ‘ma doeddwn i ddim yn gallu ‘string a sentence together to save my soul’.  Hwn yw’r rhan anodd am Gymraeg (neu unrhyw iaith arall), os wyt ti’n gofyn i fi.

Felly, ffŵy.

Ond dw i’n gwrthod i ddod digalonni bellach.  Bydd yfory’n cyfle arall siarad Cymraeg a dw i’n teimlo’r efallai bydda i’n rhugl rhyw ddydd wedi’r cyfan. Felly bydda i’n ceisio eto – ymlaen ac i’r lan.

Es i Dŷ Tawe bore ‘ma achos bod heddiw’n parti Nadolig dysgwyr.  Meistr o seremonïau oedd Clive a gwnaethon ni gwis a chanon ni carolau Nadolig.  Wrth gwrs, roedd llawer o darten Nadolig, coffi, te a chyfleoedd siarad â ffrindiau yn Gymraeg.  Gwnaeth fy mrwdd ocê, dim byd i ysgrifennu i’r cartref amdano.  Ond mwyheais weld pawb bod i’n nabod.  Roedd llawer o bobol newydd yna heddiw hefyd.  Felly roedd hynny’n syrpreis neis.

Reit.  Wel, dw i’n bant i goginio.  Ond paid anghofio:  Mae’r CD newydd Côr Tŷ Tawe yn gael yn siop ar bwys chi nawr – anrhegion Nadolig neu hosan stwffwyr (stocking stuffers?) gwych ydyn nhw!

Yna a Nôl Eto

Wel, eithaf profiad oedd yr Eisteddfod yn y Bala.  Gyrrais lan bore Iau, a wnes i ddim yn meddwl y byddwn i’n cyrraedd erioed!  Gyrru hir oedd e, ond gwerthu bob eiliad a phob gyrrwr yn ddrwg roedd rhaid i fi yrru tu ôl.

Roedd llawer o bobol i fod siŵr a llawer i weld.  Rhywbeth gorlethu oedd hi achos cyrhaeddais ar ben fy hunan a doeddwn i ddim yn siŵr ble oedd pawb.  Ond unwaith cwrddais â fy ffrindiau, roedd llawer o hwyl a doniol.

Gwelais lawer o wynebau enwog, pobol o’r teledu, enillwyr gwobr, ffrindiau (fel dywedais i), athrawon a myfyrwyr eraill o’m dosbarth yn y brifysgol. Gwelais Only Men Aloud hwyr prynhawn Iau hefyd!  Roedden nhw ym mhabell  Shelter Cymru i helpu hybu rhaglennau Shelter Cymru.

Only Men Aloud and Shelter Cymru

Only Men Aloud and Shelter Cymru

(Diolch i Chris Reynolds am y llun.)

Yn y babell werin, roedd sesiwn cerddoriaeth werin bod i’n gallu mynychu.  Tynnodd hynny llawer o bobol oedd cerdded heibio.  Ar ôl i hynny, cwrddais â ffrindiau yn y bar cwrw.  O!  A chyn i hynny, yn y prynhawn, roeddwn i’n lwcus digon i ddal Dr. Gonzo yn canu.  Bendigedig – un o’m hoff fandiau.

Cerddoriaeth Werin

Cerddoriaeth Werin

Dylwn i wedi mynychu’r gig y noson ‘na.  Dw i eithaf difaru hynny.  Ond roeddwn i’n becso’r fyddwn i ddim yn ffeindio fy ngwesty yn y tywydd felly gadais ar ôl cinio.  Doeddwn i ddim yn moyn i fod ar goll yn lle newydd yn y tywydd, chi’mod? Fel mae’n digwydd, roedd haws i ffeindio felly fyddai i ddim yn broblem o gwbl.  O wel, fel ‘na mae hi.  Blwyddyn nesaf, bydda i’n gwneud pethau yn wahanol.

Gyda llaw, llongyfarchiadau i Helen Gibbon, rheolwr Côr Tŷ Tawe – enillodd Trydydd yn y gystadleuaeth Mezzo Soprano.  Da iawn Helen!

Ar ddydd Gwener, penderfynais ymweld â’r Bala.  Felly treuliais i’r bore cerdded o gwmpas Y Bala.  Mae tref fendigedig.  Mwynheais siarad Cymraeg â phawb yn y siopau o Bala, a doeddwn i ddim yn meddwl bod i’n defnyddio Saesneg o gwbl y bore ‘na.  Dim sgwrs fawr, ‘mind you’, ond gwnes iawn siarad brawddeg fer.  Roedd pobol yn y gwesty oedd siarad yn Gymraeg hefyd! Roedd syrpreis hapus – felly trialais archeb fy mrecwast yn Gymraeg heb ddefnyddio unrhyw Saesneg o gwbl.  Gwnes!  Roedd hynny yn teimlo da iawn!

Stopiais ym mhentref bach enw Llanuwchllyn rhwng Y Bala a Dolgellau.  Roedd dyn yn ei ardd ac fel tynnais lun o’r pentref, dywedodd ‘helo’ wrtha i.  Dywedais “S’mae – dych chi’n siarad Cymraeg?”

“O iawn!” dywedodd “Iaith gyntaf”.

Perffaith!  Y broblem oedd siaradodd Gogledd Cymraeg felly cadwais gael ar goll – roedd anodd deall trafodaeth ogleddol .  Ond roedden ni’n gallu i gyfathrebu heb lawer o broblem – yn lle cyntaf achos roedd e’n siarad a siarad a siarad heb stopio.  Allwn i ddim ‘get a word in edgewise’. 

Dim ots, dywedodd wrtha i lawer o wybodaeth am yr ardal ac yr iaith.  Roedd neis hanner awr yn y heulwen.

Yn siarad o’r heulwen – roedd cynnes iawn prynhawn Iau, tywydd hyfryd.

Dymunaf fod mwy amser ‘da fi.  Ond roedd rhaid i fi ddod yn ôl i waith.  Dim ond dwy fis yn aros o’m swydd.  Felly rhaid i fi fanteisio arno fe fel gallaf.  Yn dal, ar y ffordd yn ôl, stopiais yn Nolgellau a hefyd Machynlleth i weld swyddfa Owain Glyndŵr.  Rhywbeth dw i wedi bod moyn gwneud i amser hir.

Er mae fy nealltwriaeth yn aros (diolch byth), wnaeth fy sgiliau siarad ddim.  Ofnadwy oeddwn i ddydd Iau.  Dydd Gwener roeddwn i’n well – wel yn y  bore.  Ar ôl i fi adael Y Bala, doeddwn i ddim yn siarad yn fawr felly, erbyn bore ‘ma, roedd fy Nghymraeg siarad yn cac eto.  Dw i’n credu bod i’n gwneud da iawn cyn i fi fynd i Galiffornia.  Dw i jyst gobeithio’r gallaf gyrraedd yn y pwynt ‘na eto yn gyflym.  Mae rhy haws llithro i mewn i Saesneg a dw i wedi dod diog iawn.  Dw i’n credu bod ymweld â’r Eisteddfod, i amser byr hyd yn oed, fuodd da iawn i fi – dw i’n cofio nawr pam dw i’n caru’r iaith cymaint.

Felly, dw i wedi gwneud addo i fy hunan.  Dw i’n mynd trial dod rhugl erbyn yr olaf o’r flwyddyn ysgol nesaf.  Cadwch feddwl da i fi, os gwelwch yn dda, dw i’n angen yr holl y cymorth gallaf dderbyn! 

Dw i’n hapus heddiw :O)

I’r tro gyntaf ers fy Mam wedi marw, dw i’n teimlo’n well.  Ar ôl hynny ddigwyddiad wythnos cyn diwethaf ac mae Babi Gwyn yn dod sâl wythnos diwethaf, teimlais i fel uffern.  Dim i gwyno ond yn y mis diwethaf, roedd rhaid i fi sefyll arholiadau mawr, derbynais ‘summons’ i lys i ddamwain twp ym mis Tachwedd diwethaf – ie, 7 mis yn ôl! – collais fy Mam a derbyniais hysbysiad y bydd fy swydd yn ddiwedd ym mis Medi.  Digon yn barod!!

Felly, dw i ddim wedi teimlo fel gwneud unrhywbeth, cynnwys Cymraeg.  Arbennig ar ôl i fi dderbyn traethodau yn ôl o’r athrawon ac maen nhw wedi dweud bod i ddim yn gallu ysgrifennu Cymraeg.

Rhywsut, dangosodd popeth gormod ymdrech, chi’mod?

Daeth Gwyn o’r ysbyty bore Sul, er fyddai e ddim yn dal bwyta.  Ffodus, ddechreuodd e fwyta prynhawn Sul felly roedd e’n gallu aros yn ei gartref.  Ac roeddwn i’n fy lliniaru’n fawr.

Neithiwr yn helpu yn fawr.  Y fwyaf, yn wir.  Canodd y Côr gyngerdd yn Llandeilo Ferwallt neithiwr.  Roedd cyngerdd hwyl a theimlodd da i fod yn ôl canu gyda grŵp eto.  Collais gwpl ymarferion achos bod holl o hyn.

Beth bynnag, ar ôl y gyngerdd, gwahodd cwpl aelodau côr bawb i’u tŷ.  Roedd noswaith hyfryd, tywydd perffaith, lleoliad hyfryd a mwynheuon ddiodydd a bwyd yn yr ardd. Mor neis ymlacio a sgwrs gyda ffrindiau.  Gwnaiff hynny’r byd yn ei olwg cywir wedi’r cyfan.  Gwnes ofnadwy – dw i ddim wedi bod siarad Cymraeg llawer yn hwyr.  Ond gwnaeth e roi yn ôl i fi fy brwdfrydedd i’r iaith.

Dw i ddim yn edrych ymlaen at fy nhaith Americanaidd yn gwpl wythnos.  Bydd e’n adeg trist wrth claddwn ni fy Mam – dw i’n dal ei cholli a dw i’n meddwl amdani hi yn aml.  Dw i’n meddwl ‘o, tynnaf llun o hynny i Mam” neu, ‘aros nes ddywedaf wrth Fam – bydd hi’n ei garu!’  Wedyn, sylweddolaf dyw hi ddim yna bellach.

Ond yn ffordd, bydd taith yn dod â diwedd i bethau.  Dw i’n credu’r bydd hynny yn helpu.  Bydd e’n anodd, er hynny.

Ar yr ochr disglair, mae fy nith wedi dod â gefeilliaid tadol mewn i’r byd!  Bachgen a Merch.  Felly, efallai gallaf ymweld â nhw yn Idaho i damaid bach cyn i fi ddod yn ôl adre.  Byddai hynny yn wych.  Dw i byth cwrdd â’m ‘grand’ nith a, nawr, neiaint.  Rhywbeth i edrych ymlaen ato yn bendant.  :O)

Pethau a Stwff Eraill

Mae fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas arholiadau ar hyn o bryd.  Mae’n dangos bod popeth yn atgoffa fi am yr arholiadau.  Ffeindiaf fy hunan yn cysgu gyda hen hen hen dynion wedi marw a chath!  Shwd pathedig yw hynny?! Mae ychydig o dynion y hoffwn yn fy ngwely, i fod siŵr – yn drist, dim ond brodyr Morris a Williams Pantycelyn yw yna.  O ych-y-fi – dim fy math o gwbl! 

Gwaeth eto, maen nhw’n goresgyn pob agwedd o’m mywyd!  Es i Dŷ Tawe nos Wener i ganu – noswaith mas, iawn?  Canon ni rhai emynau, wrth gwrs.  Atgoffa oeddwn i o Bantycelyn.  O na!

Hefyd, mae rhywbeth rhyfedd am arholiadau, gawsoch chi’n sylwi?  Ar ôl arholiad Cymraeg Canol, rhedodd pob merch bod i’n nabod i’r siop siocled.  Doedd dim siocled yn aros yn Abertawe’r dydd ‘na, credu.

Bore ‘ma dihunais feddwl “Neis yw’r tywydd, beth gwnaf heddiw?  Dylwn i astudio gramadeg neu dreulio amser gyda mwy hen dynion? Bydd e’n Pantycelyn, y brodyr Morris neu JSL? A gyda phwy fydda i’n bwyta, ‘sgwn i?  Waldo Williams neu William Owen-Pughe.

Mor cyffrous yw fy mywyd. 

Ie Côr Tŷ Tawe – Llongyfarchiadau!!!

Dw i’n cyffroes iawn iawn.  Enillodd Côr Tŷ Tawe‘r Cystadlaethau Corau, Eisteddfod yr Hendy neithiwr.  Bendigedig canodd y Côr! Canodd Yr Aderyn (gan Brian Hughes) a chân newydd, ysgrifennwyd i’r Helen a’r Côr; Ym Mhenrhyn Gŵyr (geiriau gan Mererid Hopwood, cerddoriaeth gan Eric Jones).

cor-ar-y-llwyfan

Do’n i ddim yn canu gyda’r côr (dim digon profiad eto i gystadlaethau) ond mwynheais fy hunan yn mawr wrando ar y perfformiadau o’r gynulleidfa.  Roedd gwych i allu dweud ‘dw i’n rhan o’r côr ‘na!’

Gary Owen oedd MC i’r noson felly roedd neis i weld person  gwelaf ar y teledu yn berson.  Cyflwynodd y wobr i Helen ar ôl llawer o eiriau hyfryd o’r barnwr.

cyflwyno

cyflwyno2

Ydw i angen dweud bod y côr yn hapus iawn……

cor-hapus

Noson yn wych oedd hi a llawer o Longyfarchiadau mawr i Gôr Tŷ Tawe!

Tesco ac yr Iaith

Es i i Tesco bore ‘ma. Dw i ddim wedi bod i Tesco am dipyn bach achos hunllef yw e. Wel, dim y siop, yn cyrraedd yn y siop.

Beth bynnag, mae arwydd newydd ‘da nhw. Dyn nhw wedi ysgrifennu’r holl wybodaeth ar yr arwydd yn y ddwy iaith – Cymraeg a Saesneg. Ond, a dw i’n gweld llawer o hyn nawr o gwmpas y ddinas yn hwyr, mae Cymraeg yn gyntaf! Ie!!!

Byddwch chi’n gwybod bod y brifysgol wedi derbyn arwyddion newydd eleni. Mae nawr bod yr enw wedi newid, pob arwydd yn dangos Cymraeg cyntaf. Wel, heblaw prif arwydd yn y fynedfa (yn fawr i’m siomedigaeth). Still, dw i’n falch iawn iawn i weld cymaint Cymraeg o gwmpas Abertawe nawr.

Dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos ‘ma. Bydd y côr yn canu Dydd Sul fel rhan o Gawl a Chân.  Bydd dydd Sadwrn yn dod â Bore Coffi Dydd Gŵyl Dewi yn Siop Siarad Tŷ Tawe.  Hefyd, dydd Sul, bydd perfformiadau yn Milkwood Jam (Gig Ffôm Dydd Gŵyl Dewi Sant).  Felly, mae penwythnos mawr ymlaen.

Mae Gwyn yn tyfu rhy gyflym.  Nawr mae e’n moyn bod tu mas trwy’r dydd.  Yn anfoddus, mae e’n moyn y drws i fod agor hefyd.  Dw i’n dweud wrtho fe “Do’n i ddim yn fy ngeni mewn ysgubor Gwyn!”  Nid yn synnu, dyw’r oer ddim yn becso fe o gwbl.

Profiad Gwaith

Wel, does dim llawer o amser ‘da fi yn hwyr achos bod i’n gwneud profiad gwaith yr wythnos diwethaf a’r wythnos ‘ma. Ond er gwaethaf o fy nghwynion, rhaid i fi ddweud bod e’n fy helpu i yn fawr! Mae fy nealltwriaeth wedi gwella deublyg. Roeddwn i’n becso am hynny felly nawr dw i’n teimlo mwy optimistaidd y bydda i’n siarad a deall Cymraeg un dydd. Efallai dim yn rhugl, ond siarad hi ‘nonetheless’.

Ac mae Côr Tŷ Tawe yn ymarfer eto. Dyn ni’n dysgu 3 cân hyfryd ar hyn o bryd. Hefyd, roedd sesiwn Bardd Bach gwych nos Wener ‘da fi. Roedd hynny llawer o hwyl. Collais i’r diwethaf felly roedd e’n ddwywaith fel neis i fod rhan o’r sesiwn ‘ma.

O’r diwedd Mae babi Gwyn yn wych iawn iawn iawn. Mae e wedi dal fy nghalon yn llwyr!

Gobeithio’r bydda i’n gallu ysgrifennu mwy nes ymlaen yn y wythnos. Nawr rhaid i fi redeg i Fenter Iaith ble dw i’n gwneud fy mhrofiad gwaith.

Mwynhewch eich diwrnod!