Felly, pam, dw i’n moyn gwybod…….

Ddoe, derbyniais e-bost o rywun am yr iaith ym mhentref Penrhyndeudraeth.  Tynnodd dyn gwn awr ar berchennog tafarn Royal Oak (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/crime/8585746/Man-arrested-after-pulling-gun-during-pub-language-row.html).

Wel, nid dylai wneud hynny, wrth gwrs.  Ond dyw’r perchennog newydd ddim yn siarad Cymraeg – neu roedd hynny’n yr hyn oedd pobol yn meddwl (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/wales/8587445/In-Wales-mind-your-language.html).

Nid syndod – Aeth y newyddion BBC i’r pentref i siarad â phobol am broblemau iaith yn yr ardal.  Mae croestyniad gwastad yn newyddion diddorol wedi’r cyfan. Siaradon nhw â phobol sy’n siarad dim ond Saesneg ar y teledu.  Ond dywedodd pob un ohonyn rhywbeth fel, ‘No, I’ve never experienced any problems with Welsh speakers.’

Dywedon nhw wrth un ferch sy’n rhedeg siop.  Dw i ddim yn cofio nawr, ond dw i’n meddwl bod hi’n dod o Loegr yn wreiddiol.  Dywedodd hi rywbeth fel ‘ No, I’ve never had a problem.  You know it’s a Welsh speaking area so you just get used to it.’

Wel…..dyna ni ‘te.

Ond aros!  Beth am yn gwneud rhywbeth cwbl fisâr, rhywbeth ‘unheard of’, rhywbeth fel…..barod……LEARNING IT!

Wow, dyna gysyniad newydd – yn treulio’r amser i ddysgu Cymraeg felly does dim rhaid y bobol sy’n byw yn yr ardal siarad yn Saesneg – yn lle, gallan ddefnyddio eu hiaith hunan.

Dw i ddim yn ‘picking’ ar y ferch yn y siop yn arbennig – yr un peth yn cadw cywir i’r perchennog tafarn.  I bawb, mewn gwirionedd. Dw i ddim yn deall beth yw anodd am ddysgu i ddweud ‘cwrw’?  Beth am ‘gwin’?  Coffi?  Nawr, dyma anodd!  Coffi……

Fy mhwynt yw hyn:  Pam rhaid y siaradwr Cymraeg siarad yn Saesneg pan nid fydd pobol sy’n byw yn yr un ardal, yng Nghymru’n dysgu siarad Cymraeg?  Yn fy marn, dylai e fod eu cyfrifoldeb i ddysgu tipyn bach o’r iaith o leiaf(!) felly gallan ymuno â’r gymuned.  Nid y ffordd arall rownd.

Y Refferendwm Trwy Lygaid Americanes

Dymunaf y gallwn bleidleisio, gwnawn yn yr eiliad a byddwn yn pleidleisio o blaid y refferendwm.

Y mae wedi bod llawer o siarad dros y blynyddoedd am dorri o Loegr  Nawr, o’r diwedd, y mae gan Gymru cyfle digynsail cymryd cam enfawr ymlaen tuag at y toriad hwnna. Y mae cyfle i symud tipyn bach agosach i rywbeth nid ydy Cymru wedi profiad ers Llewelyn ap Gruffudd – annibyniaeth.  Mae e’n gyfle anfon neges uchel tuag at Westminster bod Cymru yn gallu gwneud deddfau i’w hunan, llywodraethu ei hunan ac achub ei hiaith am genedlaethau i ddod o’i phobol.

Fel person sy’n dod o du mas Cymru, y mae’n hawdd dweud ‘dylen nhw wneud hyn neu hynny’.  Ond, hefyd, y mae’n haws rhoi sylwi i’r manteision a’r anfanteision weithiau.  Mae ofn arna yr os metha Cymru achub ar y cyfle hwn, y bydd e’n setlo’r wlad ar lwybr bant o annibyniaeth.  Byddai’n anfon neges i Westminster bod Cymru yn hapus i gael y Sais, sy’n gwybod dim byd am fywyd yng Nghymru, rheoli’r wleidyddiaeth a llinynnau pwrs o’r wlad. Os digwyddir hynny, yn fy marn y byddai e’n gam enfawr tuag yn ôl a rhôi i Westminster cyfle cadw mwy dylanwad a mwy pŵer dros Gymru.  Yn drist, y mwy rheol gyda Westminster, y llai cyfle’r gall Cymru dorri rydd.

Felly, er bod y refferendwm hwn yn llai na’r byddai llawer o bobl yn licio gweld, dechreuad yw fe’r bydd yn cadw Cymru ar y ffordd i ddatganoli.

Bendigedig Iawn Iawn

Ac mae hyn yn y rheswm dw i’n caru Cymru!

Neithiwr es i Aberpennar chwarae cerddoriaeth werin gyda Geraint, Tracy a rhai o bobol arall o Ferthyr.  Wrth gwrs anghofiais ysgrifennu lawr yr enw tafarn.

Ro’n i’n meddwl ‘Fydd Aberpennar ddim yn fod mawr iawn siŵr o fod.  Dim ond un neu dau dafarn, reit?  Dim problem, bydda i’n ffeindio nhw.  Bydda i’n tecstio at Geraint pan cyrhaeddaf.”  Felly, bant es i am 7:30 yh.

Naddo.  Mae llawer o dafarnau yn Aberpennar.  Llawer!

Wel, yn amser da, cyrhaeddais yn Aberpennar.  Tecstiais at Geraint a gyrrais i mewn i ganol y ddinas a ffeindiais dafarn prysur.  Roedd grŵp o ferched yn cerdded i’r tafarn felly stopiais i ofyn am y tafarn.  Mae un o’r ferch yn siarad Cymraeg felly roedd hynny yn wych iawn!  Rhodd hi wybodaeth a chyfarwyddiadau yn Gymraeg.  “Os dych chi ddim yn ffeindio nhw, dewch yn ôl a ymunwch â ni i ddiod,” dywedodd hi.  Hyfryd iawn!

Dywedais ‘diolch yn fawr iawn’ ac es i’n ôl dros y bont a ffeindiais y maes parcio soniodd amdano heb broblem.  Gyda gitâr ar fy nghefn, dechreuais bant ffeindio’r tri thafarn soniodd amdano hefyd.

Roedd y stryd yn dywyll iawn a dim llawer o bobol yna.  Roedd e’n dangos fel cymdogaeth breswyl.  Ond, mae e’n edrych fel hynny yn Ystradfera hefyd felly parheais ymlaen.

Roedd cwpl yn cerdded lawr y stryd ata i.  Felly gofynnais iddyn nhw am y tafarnau.  Mwy defnyddiol roedden nhw.  Eithaf neis hefyd.  Roedden ni’n sgwrs tipyn bach a pharheais lan y bryn (stryd).

Wedyn, ar ôl tro byr, cyrhaeddais yn dafarn y cyntaf.  Roedd gwraig yn sefyll tu mas y drws.  Gofynais iddi hi os roedd gwrp cerddoriaeth werin tu mewn.  ‘Na’, meddai hi.  Ond dechreuon ni sgwrs – roedd twym neithiwr – hyd yn oed ar ôl tywyll.  Felly, safan ni tu mas yn siarad am hyn y hynny. Cawson ni dro ardderchog!

Beth bynnag, dywedodd hi ‘Paid â becso am y tafarn nesaf – dim byd yna.  Ond efallai’r un drws nesaf iddo fe’.  Dywedais ‘hwyl’ a mynd i’r tafarn nesaf.

Dim tafarn cywir ond dywedodd y dyn a merch yn sefyll tu mas ‘you can sing in here if you want’.

Hyfryd!

Ond dim diolch – dw i ddim yn barod i fynd solo. 

Felly, dywedais ‘na, diolch’ ac es i yn ôl i’r car.  Ar y ffordd yn ôl i’r car, cwrddais â’r wraig o tafarn y cyntaf.  Daeth hi yn ôl tu mas gyda chwpl o bobol eraill i ffeindio fi.  Dyn nhw wedi bod gofyn tu mewn ac roedd rhywun yn gwybod am y gig dros y pentref.  Dywedon nhw i fynd yn ôl drwy ganol y ddinas i’r clwb Nixon.  Roedd cerddoriaeth werin yna.

Gwych!

Yn y Clwb Nixon, cwrddais â mwy pobol neis ond dim Geraint a Thracy.  Felly, o’r diwedd, rhois y ffidil yn y to, gadais neges at Geraint ac es i yn ôl adre.  Ond roedd taith yn wych a mwyheais fy hunan yn fawr.  Cwrddais â llawer o bobol newydd, pobol neis a ffeindiais ffordd newydd i fynd i dai Annamarie a Diana yn Rhydyfelen.

Nes ymlaen, galwodd Tracy.  Does dim ‘reception’ ffôn symudol yn y tafarn.  Felly, doedden nhw ddim yn derbyn fy neges tan rhy hwyr.  Er hynny, dw i wedi gyrru heibio’r tafarn dwywaith!  O wel, tro nesaf.  Fydda i ddim yn anghofio ysgrifennu’r enw eto.

Yn y cyfamser, roedd profiad cofiadwy arbennig achos bod e’n ail-cadarnhau (reaffirm?) y pethau dw i’n caru mwyaf am Gymru – y bobol a’r diwylliant.