Felly, pam, dw i’n moyn gwybod…….

Ddoe, derbyniais e-bost o rywun am yr iaith ym mhentref Penrhyndeudraeth.  Tynnodd dyn gwn awr ar berchennog tafarn Royal Oak (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/crime/8585746/Man-arrested-after-pulling-gun-during-pub-language-row.html).

Wel, nid dylai wneud hynny, wrth gwrs.  Ond dyw’r perchennog newydd ddim yn siarad Cymraeg – neu roedd hynny’n yr hyn oedd pobol yn meddwl (http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/wales/8587445/In-Wales-mind-your-language.html).

Nid syndod – Aeth y newyddion BBC i’r pentref i siarad â phobol am broblemau iaith yn yr ardal.  Mae croestyniad gwastad yn newyddion diddorol wedi’r cyfan. Siaradon nhw â phobol sy’n siarad dim ond Saesneg ar y teledu.  Ond dywedodd pob un ohonyn rhywbeth fel, ‘No, I’ve never experienced any problems with Welsh speakers.’

Dywedon nhw wrth un ferch sy’n rhedeg siop.  Dw i ddim yn cofio nawr, ond dw i’n meddwl bod hi’n dod o Loegr yn wreiddiol.  Dywedodd hi rywbeth fel ‘ No, I’ve never had a problem.  You know it’s a Welsh speaking area so you just get used to it.’

Wel…..dyna ni ‘te.

Ond aros!  Beth am yn gwneud rhywbeth cwbl fisâr, rhywbeth ‘unheard of’, rhywbeth fel…..barod……LEARNING IT!

Wow, dyna gysyniad newydd – yn treulio’r amser i ddysgu Cymraeg felly does dim rhaid y bobol sy’n byw yn yr ardal siarad yn Saesneg – yn lle, gallan ddefnyddio eu hiaith hunan.

Dw i ddim yn ‘picking’ ar y ferch yn y siop yn arbennig – yr un peth yn cadw cywir i’r perchennog tafarn.  I bawb, mewn gwirionedd. Dw i ddim yn deall beth yw anodd am ddysgu i ddweud ‘cwrw’?  Beth am ‘gwin’?  Coffi?  Nawr, dyma anodd!  Coffi……

Fy mhwynt yw hyn:  Pam rhaid y siaradwr Cymraeg siarad yn Saesneg pan nid fydd pobol sy’n byw yn yr un ardal, yng Nghymru’n dysgu siarad Cymraeg?  Yn fy marn, dylai e fod eu cyfrifoldeb i ddysgu tipyn bach o’r iaith o leiaf(!) felly gallan ymuno â’r gymuned.  Nid y ffordd arall rownd.

How fun was that!?!

Sori – dyw’r teitl ddim yn gallu gweithio yn y Gymraeg.  Ond mae e’n disgrifio’r digwyddiad yn berffaith!   Taith siopa fendigedig.

Es i Tesco Llanelli prynhawn ‘ma.  Penderfynais brynu pysgod i ginio.  Felly, cerddais i gefn y siop at y gwerthwr pysgod.  Ers mod i yn Llanelli, ro’n i’n moyn defnyddio Cymraeg, nid Saesneg.  Mae llawer o bobl sy’n siarad Cymraeg yn Llanelli wedi’r cyfan.

Wel, fel arfer, bydda i’n gofyn “Dych chi’n siarad Cymraeg?” cyn i fi siarad yn y Gymraeg.  Nid heddiw.  Dechreuais yn y Gymraeg a pharhau siarad yn y Gymraeg.  Yn anffodus, dyw’r gwerthwr pysgod ddim yn siarad y Gymraeg.  Ond roedd e’n gallu deall yr hyn dywedais.  Felly, es i  ymlaen gofyn i bethau yn Gymraeg ac ateb ei gwestiynau Saesneg yn Gymraeg.  Roedd e’n ardderchog!

Mae e’n teimlo mor neis i ddweud popeth yn y Gymraeg!

Wel, dw i wedi gorffen – nawr beth?

Yep.  Dw i wedi gorffen yn y brifysgol.  Nid oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n edrych ar y dydd, erioed!  Dw i ddim yn siŵr eto beth bydd fy marciau – dw i’n aros i glywed o’r Academi Hywel Teifi – ond mae syniad cyffredin ‘da fi.  Dw i’n falch ond siomedig yr yn pryd.  Dw i’n hapus i gael pasio ac enillodd fy ngradd.  Ond siomedig achos mod i wedi disgwyl (a moyn) siarad yr iaith yn rhugl erbyn hyn.  Dw i ddim wedi gwneud hynny – dim o gwbl.  Felly, mae e’n rhwng bodd ac anfodd gadaf Brifysgol Abertawe.

Beth nesaf?

Wel, bydda i’n mynd yn ôl i Galiffornia yn ddiwedd mis Gorffennaf.  Mae hyn wedi bod penderfyniad anodd iawn i fi.  Yn rhan achos bydd e’n ystyr yn dechrau eto – does dim unrhywbeth heblaw rhai dodrefn yng Nghaliffornia ‘da fi; dim gwaith, dim car, dim llawer o unrhywbeth.  Dw i ddim yn gwybod ble bydda i’n byw hyd yn oed!  Mae Cymru wedi dod cartref i fi ac mae fy nghath yna, fy nghar, fy mhlanhigion, fy ffrindiau, yr iaith, fy mywyd, mewn gwirionedd.

Hefyd, dw i wedi gweithio caled i ffitio i mewn y diwylliant – dyna lawer i ddysgu pan dewch i mewn diwylliant newydd.  Dweud y gwir, do’n i ddim y sylweddoli faint!   Mae’r pethau bach yn anoddach; pethau bod chi ddim yn meddwl amdanyn.  Pethau nid fyddwch yn sylwi tan geisiwch ymdopi â nhw.

Ond, nid gallaf aros.  Byddwn i’n peryglu popeth os arhosaf obeithio i ffeindio gwaith.  Achos ymfudwr rhyngwladol dw i, does dim rhaid i fi ffeindio jyst unrhyw swydd – na!  Rhaid i fi ffeindio gwaith â chwmni y bydd e’n piau caniatâd i gyflogi person rhyngwladol.  A hefyd, rhaid iddyn addo bod nhw’n ceisio ffeindio rhywun yn y EU yn gyntaf.  Hynny, ychwanegol y rheolau visa newydd (nid i sôn cost – ych-y-fi!) a fy oed….wel, let’s face it, the odds are stacked against me.  Rhaid i fi gyfaddef, dyw e ddim yn haws i deimlo bod i ddim cael fy moyn yma.  Mae’r syniad ‘na yn rhy drist ond does dim unrhywbeth personol, dw i’n siŵr – dw i ddim ar ben fy hunan a rhaid i lywodraeth wneud rhywbeth i reoli mewnfudiad.  Pe fyddwn yn ifancach, byddwn i’n ymladd aros – cymryd y perygl.  Ond nid nawr.

Efallai, dw i’n swnio trist iawn.  Yn y ffordd, dw i’n teimlo fel hynny – dw i’n gadael cartref wedi’r cyfan.  Ond, mae llawer i edrych ymlaen ato hefyd.  Gallaf dreulio amser gyda fy nheulu (dim ond fy chwaer nawr) a, efallai, prynaf dŷ o’m hunan. A, dweud y gwir, mae llawer bod i’n colli o Galiffornia hefyd.  Felly nid cwbl ddrwg.

Mae e wedi bod profiad cyffrous, anodd, trist a gorfoleddus; anturiaeth fendigedig ac nad fyddwn yn cyfnewid y pedair blynedd diwethaf ‘ma am unrhywbeth yn y byd!  Dw i wedi cael cyfle anghyffredin achos ers mod i ferch fach, dw i wedi moyn byw ym Mhrydain – felly, dw i wedi byw’r breuddwyd ‘na.

Dw i wedi dysgu cymaint ar y daith syfrdanol ‘ma.  Dw i ddim wedi bod mewn diwylliant newydd o’r blaen erioed, ‘heck’ – prin mod i wedi bod tu mas o Galiffornia o’r blaen!  Felly, dw i’n mynd yn ôl person gwahanol – person gwell, credaf.

Des yma gyda dim byd ond siwtces.  Byddaf yn gadael gyda chalon lawn.

I don’t want to hear your excuses!!!

Ac yn arbennig, dw i ddim yn moyn gwrando ar ddarlith awr gron am pam dych chi’n ddim yn siarad y Gymraeg!

Ddoe, ymwelais â Chastell Coch ar bwys Caerdydd.  Roedd e’n ymweld hyfryd iawn iawn.  Lle diddorol, a mwynheais dreulio amser yna.  Wel, ro’n i’n ceisio siarad â phawb yn y Gymraeg ond doedd dim unrhywun sy’n siarad yr iaith.  Yn y siop anrheg, gofynnais i’r dyn “Dych chi’n siarad Cymraeg?”  Dw i’n wastad gofyn hyn.  Weithiau, dw i’n lwcus ac mae’r siopwr yn siarad Cymraeg.  Nid y tro ‘ma.  Lansiodd i mewn darlith hir yn yr hyn gwnaeth rhestr o’r rhesymau pam nid siaradodd y Gymraeg.  Roedd e’n siarad mor hir, aeth Annamarie fforio hebof i!  Doedd dim ffordd i ddianc heb i fod anfoesgar.  :O(

Who cares?!!!!  Meddyliais i fy hunan.

Y peth yw:  Os dych chi ddim yn siarad yr iaith, mae’n iawn.  Os dych chi ddim yn moyn dysgu i siarad yr iaith, mae’n iawn.  Wel, nid iawn ond……

Os dych chi’n meddwl bod chi ddim yn gallu dysgu siarad yr iaith, mae’n iawn.  Os dywedodd y dyn drws nesaf nad fyddech yn dysgu’r iaith, mae’n iawn.

Ond, dywedwch y gwir!!  Os dych chi’n teimlo euog amdano, wedyn dych chi’n gwybod bod chi’n dim ond gwneud esgusion.  Felly, peidiwch â gwastraffu fy amser yn cyfiawnhau eich hunan achos dw i ddim yn moyn gwrando arnyn!

Paranoid? Pwy yw paranoid?

Unwaith eto, mae’r broblem ‘ma yn codi ei ben salw:

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2011/04/14/anglesey-hotel-bans-kitchen-staff-from-speaking-welsh-55578-28518306/

Nid siarad yn y Gymraeg yn y gegin.  Reit.  Pam llai?  Pam nid all bobol siarad gyda’i gilydd yn eu hiaith frodorol? Dim ond sgwrs gyda’i gilydd ydyn nhw.

Anfonais yr erthygl ‘ma at fy ffrind, Hazel, yn America.  Dywedodd hi dwy beth:

  1. Pam rhaid inni gael rheolau a chyfreithiau am hyn?
  2. Mae hyn yn gwneud nid ystyr!  Mae’r ‘Mexicans’ yn sgwrs gyda’i gilydd trwy’r dydd wrth gweithiant – dim ots.

Wel, mae e’n mynd heb ddweud bod i’n cytuno â hi.  Nid allaf ddeall pam mae e’n dda i siarad Indian, Arabeg, Ffrengig, Sbaeneg neu unrhyw nifer o ieithoedd eraill, ond nid y Gymraeg?  Does dim becso am rywun sy’n siarad Arabeg.  Does neb yn meddwl bod rhywun sy’n siarad Arabeg yn siarad amdanyn, reit?  Felly, pam mae pobol mor siŵr os dych chi’n siarad Cymraeg, dych chi’n siarad amdanyn nhw?  Dw i ddim yn meddwl bod i wedi siarad am rywun arall yn y Gymraeg er mwyn y fydden nhw ddim yn deall, erioed.  Mae e’n dangos dim ond paranoia heb sail, yn fy marn.

Dw i’n meddwl bod twp yw’r agwedd ‘ma.  I fy rhan, yn fy mhrofiad mae’r bobol sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn ystyriol a, fel arfer, maen nhw’n siarad yn y Saesneg pan ddyw rhywun yn eu grŵp ddim yn siarad yr iaith.

Felly, hoffwn ofyn i’r bobol ‘ma:  So, really, what are you so paranoid about?

Gwobrau Blog

Wel, do’n i ddim yn ennill.  Ond dim ots – do’n i ddim yn disgwyl ennill.  Llongyfarchiadau i bawb ar y rhestr fer ac, wrth gwrs i’r enillwyr.  Yn fy nghategori, Blog Menai (cyntaf) a Pugnacious Little Trolls (ail) oedd ennill.  Da iawn bois!

Rhaid i fi ddweud roedd e’n llawer o hwyl gwneud y cyfweliad â S4C cwpl o ddiwrnod cyn y seremoni.  Bydda i’n brolio tipyn bach i eiliad achos bod i’n gallu gwneud am 20 neu 25 munud yn ddim ond Cymraeg gyda nhw – dim ond un ‘take’ hefyd!  Aethon ni yn syth ymlaen – roedd e’n deimlad ardderchog!  Yn enwedig fel roedd rhaid i fi ruthro Gwyn i’r milfeddyg fel argyfwng jyst cyn iddyn nhw ddod – roedd rhywbeth ofnadwy wedi digwydd iddo fe.  Felly, roedd e’n anodd tipyn bach i ganolbwyntio.  Ond dyna ni – roedd y criw yn fendigedig am bopeth a hoffwn ddweud ‘diolch yn fawr iawn’ iddyn nhw.

Es i seremoni gwobrau gyda fy ffrind Annamarie sy’n dod o Rydyfelin, ac roedd y noswaith yn neis iawn.  Cinio mas ac wedyn gwin am ddim.  Roedd llawer o bobol yna hefyd a thynnon nhw llawer o lluniau. Dw i’n credu bod i’n edrych ofnadwy.  Ond ro’n i’n ‘upset’ iawn am Gwyn a ro’n i wedi bod crio yn fawr.  Felly roedd fy llygaid yn ‘puffy’ iawn.  Dim syrpreis ‘te do’n i ddim yn edrych fy ngorau, ‘sbo…

Gwobrau blog

Left to right are Rachel Waters and Tracey Paddison of Splott Online and Peggi Rodgers and Anna Marie Clarke of Adenydd Celtaidd.

Beth bynnag, roedd y canolfan yn neis iawn a mwynheais gwrdd â blogwyr eraill.  Cwrddon ni â chwpl o’r barnwyr ac roedd llawer o jôcs achos bod y bois sy’n ysgrifennu blogiau chwaraeon yn gwisgo posh iawn.  Mae e’n mynd heb dweud bod y bois sy’n ysgrifennu blog cwrw yn yfed cwrw yn y bwrdd cornel a roedd pawb yn ysgrifennu pyst blog o ‘na.  Noswaith yn wych.

Heddiw yw’r Diwrnod!

Wel, bydd heno noson gwobr yng Nghaerdydd.  Dw i dipyn bach nerfus, rhaid i fi gyfaddef.

Daeth Wedi 7 nos Fawrth siarad â fi felly, byddan nhw’n chwarae’r fideo ‘na heno yn ystod y darllediad yn fyw o Chapter Arts Centre.   Dw i ddim yn disgwyl ennill, ond bydd e’n hwyl iawn cymryd rhan a mwynheais gwrdd â chriw Wedi 7 yn fawr.  Pobol hyfryd ydyn nhw a diolch arbennig iddyn nhw – roedd noson yn anodd i fi achos roedd argyfwng anifail anwes ‘da fi.

Dw i’n credu’r blogiau’n dangos yr iaith yn byw a thyfu.  Mae wedi bod llawer o gwestiynau yn ddiweddar am y gwerth o Gymraeg.  Felly, dw i’n credu bod e’n bwysig iawn iawn i ddangos bod yr iaith yn gallu symud ymlaen ochr yn ochr ag ieithoedd eraill.  Hefyd, mae e’n bwysig i ddangos bod e’n bosibl defnyddio’r Gymraeg mewn bob rhan o fywyd, yr un fel Saesneg.  Dw i’n credu’r blogiau Cymraeg yn helpu â hynny.

Felly, dyma ‘pob lwc’ i bawb ac edrychaf ymlaen at gwrdd â phawb.