Wel, dw i wedi gorffen – nawr beth?

Yep.  Dw i wedi gorffen yn y brifysgol.  Nid oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n edrych ar y dydd, erioed!  Dw i ddim yn siŵr eto beth bydd fy marciau – dw i’n aros i glywed o’r Academi Hywel Teifi – ond mae syniad cyffredin ‘da fi.  Dw i’n falch ond siomedig yr yn pryd.  Dw i’n hapus i gael pasio ac enillodd fy ngradd.  Ond siomedig achos mod i wedi disgwyl (a moyn) siarad yr iaith yn rhugl erbyn hyn.  Dw i ddim wedi gwneud hynny – dim o gwbl.  Felly, mae e’n rhwng bodd ac anfodd gadaf Brifysgol Abertawe.

Beth nesaf?

Wel, bydda i’n mynd yn ôl i Galiffornia yn ddiwedd mis Gorffennaf.  Mae hyn wedi bod penderfyniad anodd iawn i fi.  Yn rhan achos bydd e’n ystyr yn dechrau eto – does dim unrhywbeth heblaw rhai dodrefn yng Nghaliffornia ‘da fi; dim gwaith, dim car, dim llawer o unrhywbeth.  Dw i ddim yn gwybod ble bydda i’n byw hyd yn oed!  Mae Cymru wedi dod cartref i fi ac mae fy nghath yna, fy nghar, fy mhlanhigion, fy ffrindiau, yr iaith, fy mywyd, mewn gwirionedd.

Hefyd, dw i wedi gweithio caled i ffitio i mewn y diwylliant – dyna lawer i ddysgu pan dewch i mewn diwylliant newydd.  Dweud y gwir, do’n i ddim y sylweddoli faint!   Mae’r pethau bach yn anoddach; pethau bod chi ddim yn meddwl amdanyn.  Pethau nid fyddwch yn sylwi tan geisiwch ymdopi â nhw.

Ond, nid gallaf aros.  Byddwn i’n peryglu popeth os arhosaf obeithio i ffeindio gwaith.  Achos ymfudwr rhyngwladol dw i, does dim rhaid i fi ffeindio jyst unrhyw swydd – na!  Rhaid i fi ffeindio gwaith â chwmni y bydd e’n piau caniatâd i gyflogi person rhyngwladol.  A hefyd, rhaid iddyn addo bod nhw’n ceisio ffeindio rhywun yn y EU yn gyntaf.  Hynny, ychwanegol y rheolau visa newydd (nid i sôn cost – ych-y-fi!) a fy oed….wel, let’s face it, the odds are stacked against me.  Rhaid i fi gyfaddef, dyw e ddim yn haws i deimlo bod i ddim cael fy moyn yma.  Mae’r syniad ‘na yn rhy drist ond does dim unrhywbeth personol, dw i’n siŵr – dw i ddim ar ben fy hunan a rhaid i lywodraeth wneud rhywbeth i reoli mewnfudiad.  Pe fyddwn yn ifancach, byddwn i’n ymladd aros – cymryd y perygl.  Ond nid nawr.

Efallai, dw i’n swnio trist iawn.  Yn y ffordd, dw i’n teimlo fel hynny – dw i’n gadael cartref wedi’r cyfan.  Ond, mae llawer i edrych ymlaen ato hefyd.  Gallaf dreulio amser gyda fy nheulu (dim ond fy chwaer nawr) a, efallai, prynaf dŷ o’m hunan. A, dweud y gwir, mae llawer bod i’n colli o Galiffornia hefyd.  Felly nid cwbl ddrwg.

Mae e wedi bod profiad cyffrous, anodd, trist a gorfoleddus; anturiaeth fendigedig ac nad fyddwn yn cyfnewid y pedair blynedd diwethaf ‘ma am unrhywbeth yn y byd!  Dw i wedi cael cyfle anghyffredin achos ers mod i ferch fach, dw i wedi moyn byw ym Mhrydain – felly, dw i wedi byw’r breuddwyd ‘na.

Dw i wedi dysgu cymaint ar y daith syfrdanol ‘ma.  Dw i ddim wedi bod mewn diwylliant newydd o’r blaen erioed, ‘heck’ – prin mod i wedi bod tu mas o Galiffornia o’r blaen!  Felly, dw i’n mynd yn ôl person gwahanol – person gwell, credaf.

Des yma gyda dim byd ond siwtces.  Byddaf yn gadael gyda chalon lawn.

O Galiffornia

O’r diwedd, heddiw – ar ôl mwyaf nag wythnos o weithio yn nhŷ Mam ac yn ymladd gydag emosiynau cryf, roedd amser rhydd ‘da fi.  Mae cymaint penderfyniadau bod rhaid bod gwneud!  Ond nawr, dw i wedi agos gwneud yr holl ohonyn nhw.  Felly, mae rhai gollyngdod ‘da fi a gaf i ymlacio tipyn bach.

Ond rhaid i fi ddweud, dw i’n colli Cymraeg a Chymru yn fawr!  Mae’r iaith yn rhan fawr o’m bywyd bob dydd.  Dw i arfer ysgrifennu negesau text yn Gymraeg, ysgrifennu e-bost yn Gymraeg a siarad â ffrindiau yn Gymraeg.  Nawr mae popeth yn Saesneg. 

Roedd y tywydd yn fendigedig heddiw, am 88F.  Felly penderfynais yrru i’r gorllewin o Sebastopol at Bae Bodega – ar lan y môr.  Ar y ffordd, stopiais yn Occidental – mae pentref bach yn y mynydd – am hanner awr gyrru o yma.

Roeddwn i’n cerdded o gwmpas Occidental pan gwrddais ddyn a dweud ‘helo’ a dechreuodd siarad â fi am Whiskeytown (roeddwn i’n gwisgo crys-t o Whiskeytown).  Dywedodd wrtha i fod artist o Occidental wedi symud i Whiskeytown ac roedd e’n gofyn a roeddwn i’n nabod hi.  Wel, wrth gwrs, sa i – mae llawer o bobol yn yr ardal ‘na.

Dechreuwn ni siarad am Gymru.  Roeddwn i’n sôn am fyw yng Nghymru. Yn fuan, gofynodd: “Have you mastered the language yet?”

Dw i’n credu bod e’n jocan.  Sa i’n credu bod e’n erfyn yr ateb derbyniodd…..

‘Na ond dw i’n dysgu.’ atebais yn Gymraeg.

Wel, roedd e’n olwg sioc.  Calonogais nawr – mae unrhywun sy’n barod gwrando ar yr iaith y Nefoedd, iawn?  Iawn!

Parheais:  “Ie.  Dw i’n astudio Cymraeg yn y Brifysgol Abertawe.”

Ffodus, dw i’n gwybod y frawddeg ‘na dda iawn, felly gallaf siarad e yn gyflym trwy hynny swnio nodedig.

Yna, roedd e’n moyn dysgu’r ffordd dweud rhywbeth yn Gymraeg.  Felly dysgais “S’mae” a ‘bore da’ iddo fe.  Roedd e’n hapus iawn, dywedon ni ‘hwyl’ ac es i lawr y ffordd i’r pentref  Bodega a’r ty ysgol –  y lle ble ffilmion nhw ‘The Birds‘.

Llawer o hwyl roedd hynny – roedd rhyw fath o thema adar ‘da agos popeth yn y siop anrheg. Yn cynnwys gafaelydd papur tŷ bach.  Roedd  brân yn eistedd ar bapur tŷ bach coch!  Ble oedden nhw’n ffeindio papur tŷ bach coch, tybed?!

Gobeithio ysgrifennu wythnos nesaf ond sa i’n siŵr achos rhaid i fi weithio yn fy swydd hefyd – dim gwyliau, yn anffodus – efallai pan ddof yn ôl i Gymru – gawn ni weld.  Yn y cyfamser, byddwn ni’n cael angladd Mam fore Iau.  Sa i’n edrych ymlaen i hynny – hwyl derfynol.

Ond wastad, pan mae un drws yn cau, arall yn agor.  Sa i’n credu’r byddai hi’n moyn ni i deimlo trist.  Gwnawn wrth gwrs.  Ond dw i’n credu, yn wir, y byddai hi’n moyn ni dathlu iddi hi achos nawr mae hi’n gyda’r person bod hi’n caru yr holl o’w bywyd – fy Nad.  Maen nhw’n gyda’i gilydd yn ysbryd nawr ac yn fuan, byddan nhw’n nesaf i’i gilydd yn y fynwent hefyd.  Dw i’n hapus i hynny achos bod i’n gwybod does dim byd arall y byddai hi’n moyn na fod gyda fe am byth.

Pethau a Stwff Eraill

Mae fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas arholiadau ar hyn o bryd.  Mae’n dangos bod popeth yn atgoffa fi am yr arholiadau.  Ffeindiaf fy hunan yn cysgu gyda hen hen hen dynion wedi marw a chath!  Shwd pathedig yw hynny?! Mae ychydig o dynion y hoffwn yn fy ngwely, i fod siŵr – yn drist, dim ond brodyr Morris a Williams Pantycelyn yw yna.  O ych-y-fi – dim fy math o gwbl! 

Gwaeth eto, maen nhw’n goresgyn pob agwedd o’m mywyd!  Es i Dŷ Tawe nos Wener i ganu – noswaith mas, iawn?  Canon ni rhai emynau, wrth gwrs.  Atgoffa oeddwn i o Bantycelyn.  O na!

Hefyd, mae rhywbeth rhyfedd am arholiadau, gawsoch chi’n sylwi?  Ar ôl arholiad Cymraeg Canol, rhedodd pob merch bod i’n nabod i’r siop siocled.  Doedd dim siocled yn aros yn Abertawe’r dydd ‘na, credu.

Bore ‘ma dihunais feddwl “Neis yw’r tywydd, beth gwnaf heddiw?  Dylwn i astudio gramadeg neu dreulio amser gyda mwy hen dynion? Bydd e’n Pantycelyn, y brodyr Morris neu JSL? A gyda phwy fydda i’n bwyta, ‘sgwn i?  Waldo Williams neu William Owen-Pughe.

Mor cyffrous yw fy mywyd. 

Hiraeth a Theulu

Weithiau mae bywyd yn anodd.  Heddiw anodd iawn iawn yw bywyd.  I’r tro cyntaf ers des i Gymru, dw i eithaf moyn mynd cartref.  Collaf fy nheulu.  Collaf yr holl y pethau cyfforddus, y bwyd, yr olygfa, yr acenion.  Collaf fy nhad – yn fawr.  Mae e wedi bod mynd ers 2001.  Dw i wastad credu’r byddai e yna.  Sbo mae pawb yn teimlo’r ffordd ‘na am eu rheini.  Ond un dydd, dych chi’n troi o gwmpas ac maen nhw wedi mynd a dymunwch y gallech wrando ar eu llais eto a dywedech ‘I love you’ unwaith mwy.

Pasg yw pen-blwydd Dad – 12fed.  Neithiwr ffoniodd fy mam o Galiffornia.  Dywedodd hi wrtha i am y cinio Pasg bod fy chwaer yn bwriadu.  Dywedodd hi wrtha i am ymweld â bedd Dad i ddodi blodau iddo fe.  Dywedodd hi wrtha i am ei iechyd – mae e’n waeth nawr, mae hi’n ‘aging’ yn gyflym.

Ac mae fy nghyn-gŵr wedi dioddef trawiad ar y galon yr wythnos diwethaf ‘ma.  Teimla iddo fe – dw i’n gwybod bod ofn mawr arno fe am hynny – a nawr mae e wedi digwydd.

Mae’r holl y bobol y dw i wedi caru wedi mynd neu fynd. A gwerthfawr ydyn nhw. Dw i ddim yn hoffi yn tyfu hen – e’n mor anodd i golli pawb bod chi’n caru, un erbyn un.  Heddiw dw i’n teimlo 100 oed.

Weithiau mae e’n anodd iawn iawn i fod ar fy men fy hunan, 100 miliwn militir o gartref…..

Penblwydd Hapus i ti Daddy.

Y Wyliau yng Nghaliffornia Heulog

Helo o Galifornia dim-fel-heulog!  Mae pobol yn gofyn fi ‘How does the weather in Wales compare with the weather here?’  Hwmm…..dyn ni’n gweld….yr un?  Ie, yr un.  Mae’r tywyll wedi bod oer ac wyleb – bwrw glaw ar hyn o bryd.  A dweud y wir, mae’r tymheredd yng Nghmru yn fwy cynnes nag yma yn Sebastopol (yn yr wlad win gogledd o San Francisco).

Ond dyn ni’n cael tro gwych.  Nos Wener, aethon ni i dŷ y cymydog.  Cafodd hi parti cinio Nadolig gyda llawer o ffrindiau. Roedd ychydig o gerddorion yna a daethon nhw ag eu offerynnau.  Felly ar ôl cinio, ymgynnullasom yn yr ystafell fyw i sesiwn gerddoriaeth.  Roedd hynny yn fendigedig arbennig achos bod i’n colli nos gerddoriaeth werin y mis ‘ma yn Nhy Tawe  – roedd e’n yr un noson – nos Wener diwethaf.  Chwaraeasom a chanasom cerddoriaeth werin Americanaidd a Wyddelod.  Wrth gwrs roedd rhaid i fi gyflwyno cerddoriaeth werin Cymreig ac yr iaith Cymraeg hyfryd i bawb. Dywedais llawer o wybodaeth am Gymru wrthyn nhw.  Gofynodd pobol am Gymru, ei maint, ei gwleidyddiaeth, ei iaith, cyflogaeth ac mae’r ffordd bod yr economi’n effaith pobol Cymro, datganoli cynnydd, ayyb. Gwybu bawb bod cenedl unigol yw Cymru.  Dw i’n meddwl bod pobol yma yn gwybod mwy am Cymru na bobol yn Redding!

Neithiwr, rhodd fy chwaer parti cinio Nadolig hefyd.  Gwnaeth hi ‘Tenderloin’ cig moch gyda stwffin caws glas ac olif, reis Jasmine, salad pigoglys.  Teisen gaws gyda ‘topping’ ceiriosen roedd pwdin; tipyn o win coch…..a, pherffeithrwydd!   Roedd e’n mas o’r byd ‘ma, cogyddes fendigedig iawn iawn yw fy chwaer!  Eto, ar ôl cinio chwaraeodd y cerddorion.  Mae fy chwaer yn cadw fy ngitâr 12 llinyn i fi.  Felly tynnais fe mas – o, neis da iawn iawn i chaware y offeryn ‘na eto – mae e wedi bod amser hir.  Hoffwn i dod â fe cartref gyda fi ond dw i ddim yn meddwl y bydda – mae gormod i gario yn barod ‘da fi.

Beth bynnag, dw i’n mwynhau fy ymwelaid yn fawr.