Byw yn America

Wel, mae e wedi bod amser hir ers mod i wedi ysgrifennu. Doedd ddim wedi bod llawer i ysgrifennu amdano. Mae e’n cymryd am saith mis i ffeindio swydd felly do’n i ddim wedi bod hapus iawn. Yn olaf, nawr, dw i’n gweithio am Sir Marin fel Ysgrifennwraig We. Yn anfoddus, dw i’n dechrau anghofio’r Gymraeg felly dw i wedi penderfynu ceisio ysgrifennu bob dydd ar y blog. Dw i’n dal caru’r iaith a dw i ddim yn moyn anghofio hi.

Dw i wedi bod edrych ar rygbi Six Nations – wel, gymaint a gallaf achos bod BBC America ddim yn darlledu beth maen nhw’n addo! Er hynny, rhaid i fi ddweud, dw i’n falch iawn iawn o’r bois. Da iawn chi!

Wel, byr heddiw – rhaid i fi weithio nawr. Ond, gobeithio’r byddaf yn parhau ysgrifennu nawr – mae e’n teimlo ardderchog i defnyddio’r Gymraeg eto!

Dyna Hwyl, Rhaid i fi Ddweud

Os dych chi wedi bod darllen y blog ‘ma, byddwch chi’n gwybod bod cert sglefrio emosiwnol yw dysgu Cymraeg.  Dw i’n credu bod pawb sy’n dysgu iaith yn profi hynny.  Mae’r un gyda Chymraeg.

Ond rhaid i fi ddweud bob hyn a hyn byddwch chi’n bwrw profiad bendigedig.  Pan ddigwyddodd hynny, wel, dych chi’n credu’r fallai byddwch chi’n dod rhugl wedi’r cyfan.  Digwyddodd hynny i fi ddoe.

Penderfynais does dim rheswm pam allwn i ddim yn siarad yn Gymraeg.  Dw i’n gwybod llawer o eiriau a pan ddw i yn y gwely, dw i eithaf rhugl.  Os gallaf wneud hynny yn siarad â fy hunan yn y gwely, wedyn gallaf wneud hynny amserau arall hefyd, reit?  Reit.  Felly, dw i’n taro ati.

Es i’r brifysgol cwrdd ag ymgynghorydd rhyngwladol am fy Visa myfyriwr.  Wel, maen nhw’n gwybod bod i’n dysgu Cymraeg a dw i’n licio trial defnyddio fy Nghymraeg pan posibl.  Felly, dywedais wrtho fe “Dych chi’n siarad Cymraeg”.

“Ydw.”

“Gwych!……..”  Well, mae llawer i’m syndod, gallais ddweud popeth yn Gymraeg!  Anhygoel!  Ro’n i’n falch iawn o fy hunan.  Felly, penderfynais i trial eto achos roedd rhaid i fi fynd i’r recordiau myfyriwr i ddogfen.  Siaradais dim ond yn Gymraeg.  Ond…..

Dyw’r dderbynyddes ddim yn siarad Cymraeg.  Felly, chi’n barod?  Gafaeliodd y ffôn i alw rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg i ddweud wrtha i!  Tro cyntaf erioed!

O fy!  Dyw ‘bendigedig’ ddim yn dweud digon – dw i ddim yn gallu disgrifio’r ffordd teimlais.

Roeddwn i’n gyffrous iawn iawn.  Dw i ddim yn rhugl, wrth gwrs, ond rhugl teimlais i.  Roedd blas o rywbeth bod hofiais.  Yn FAWR.  Dw i’n moyn mwy nawr!

Profiad bendigedig iawn!  Felly, os dych chi’n dysgu Cymraeg a dych chi’n teimlo digalondid achos bod chi’n mynd lan a llawer a dych chi ddim yn dangos i fod symud ymlaen, peidiwch roi’r ffidil yn y to.  Dych chi’n symud ymlaen.  Peidiwch ag ofn i siaradwch â phobl.  Dych chi byth gwybod pan fydd rhywbeth fel hyn yn ei ddigwydd.

Ac mae’r eiliadau ‘ma’n gwneud popeth yn werthfawr.  Ond fyddwch chi ddim yn profi’r pethau ‘ma os dych chi ddim yn defnyddio’r iaith â phobol arall.  Felly, eto, ceisiwch!  Fallai byddwch chi’n cael eich siomi ar yr ochr orau.

Erm…ble mae’r Gymraeg?

Os mae sticer ‘Ble mae’r Gymraeg’ yn ei angen erioed, mae e’n nawr.

Ro’n i’n gyrru yn ôl i’r brifysgol dydd Llun diwethaf ac edrychais ar y ffordd mewn Ysbyty Singleton.  Dyna, yn goch disglair, “Warning – Change to Road Layout”.

Esgusodwch fi?  Ydy rhywbeth yn ei golli yna, folks?  Mae’r Gymraeg efalle?

Wel, efalle byddan nhw’n dweud: “Wel, mae pawb yn siarad Saesneg” neu’r gwastad poblogaidd “Does dim neb yn Abertawe sy’n siarad Cymraeg.”  Ond does dim esgus.  Adeilad cyhoeddus yw e, ac am hynny, dylai fod Cymraeg.

Heblaw, dw i wedi eistedd yn yr ystafell aros mwy na unwaith gwrando ar Gymraeg yn cael ei siarad.  Felly, dych chi ddim yn dweud wrtha i fod ‘neb yn siarad Cymraeg felly does rhaid i ni ddarparu arwydd Cymraeg’.

Dymunaf ddinesydd o Gymru oeddwn i.  Achos gallwn ddodi sticer-“Ble mae’r Gymraeg?” ar yr arwydd heb fecso o alltudiaeth.

Yn lle, bydda i’n gorfodi ysgrifennu llythyr aneffeithiol i’r yr ysbyty.  O wel, o leiaf mae hynny yn rhywbeth, beth bynnag.

Pethau a Stwff Eraill

Mae fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas arholiadau ar hyn o bryd.  Mae’n dangos bod popeth yn atgoffa fi am yr arholiadau.  Ffeindiaf fy hunan yn cysgu gyda hen hen hen dynion wedi marw a chath!  Shwd pathedig yw hynny?! Mae ychydig o dynion y hoffwn yn fy ngwely, i fod siŵr – yn drist, dim ond brodyr Morris a Williams Pantycelyn yw yna.  O ych-y-fi – dim fy math o gwbl! 

Gwaeth eto, maen nhw’n goresgyn pob agwedd o’m mywyd!  Es i Dŷ Tawe nos Wener i ganu – noswaith mas, iawn?  Canon ni rhai emynau, wrth gwrs.  Atgoffa oeddwn i o Bantycelyn.  O na!

Hefyd, mae rhywbeth rhyfedd am arholiadau, gawsoch chi’n sylwi?  Ar ôl arholiad Cymraeg Canol, rhedodd pob merch bod i’n nabod i’r siop siocled.  Doedd dim siocled yn aros yn Abertawe’r dydd ‘na, credu.

Bore ‘ma dihunais feddwl “Neis yw’r tywydd, beth gwnaf heddiw?  Dylwn i astudio gramadeg neu dreulio amser gyda mwy hen dynion? Bydd e’n Pantycelyn, y brodyr Morris neu JSL? A gyda phwy fydda i’n bwyta, ‘sgwn i?  Waldo Williams neu William Owen-Pughe.

Mor cyffrous yw fy mywyd. 

Well, how totally neat is this?!

Neithiwr ro’n i’n canu fy ngitâr yn Nhŷ Tawe gyda’r grŵp sesiwn bardd bach.  Yn anfoddus, cadwodd fy ngitâr fynd mas o diwn.  Wel, o’r diwedd nid allais ei thiwnio o gwbl.  Hefyd yn anfoddus, roedd fy ngitâr wedi torri!  Ych-y-fi.  Mae gwddf wedi tynnu mas o’r sawdl.  Peryglus iawn iawn achos gallai’r gwddf dorri bant.  Felly llaciais y tannau ac roedd rhaid i fi stopio canu i’r nos.  Bummer iawn iawn!!

Felly, prynhawn ‘ma, cymrais y gitâr i mewn y siop Rowlands.  Fel mae e’n troi mas,  ro’n i wedi bwrw’r pen ‘just right’ a roedd torri yn ei achos gan y bwrw cyfuno â thannau tyniant.  Ych-y-fi eto.

Rhoddodd dyn Rowlands i fi’r enw dyn yn Nhre Gŵyr sy’n trwsio gitarau.  Pan ffoniais, atebodd y peiriant ateb.  Saesneg a Chymraeg yw’r neges.  Wel, atebodd e cyn i fi allu gadael neges a dywedodd ‘dewch erbyn nawr a bydda i’n edrych arni hi i chi’ (yn Saesneg – dw i ddim yn dal siŵr o fy hunan dros y ffôn).

Pan gyrhaeddais, gofynnais iddo fe, “Dych chi’n siarad Cymraeg?”

“Ydw!”

“Gwych!!” atebais i a lansiais i mewn i draethawd am ddysgu Cymraeg.  Roedd sgwrs fendigedig achos bod e’n siarad â fi am ddysgu a siarad Cymraeg, yn byw yn America ac wedyn am drwsio’r gitâr.  Yr holl yn Gymraeg!

Wel, ro’n i’n chuffed to bits arbennig achos bod i’n gallu deall bron popeth AC mae e’n gallu trwsio’r gitâr.

Felly, er gwaethaf amgylchiadau yn ddrwg, roedd ochr cadarnhaol hefyd.

Nawr os gallaf basio’r arholiad Cymraeg Canol bore Llun, bydda i’n person hapus iawn iawn.

Dim Siaradwyr Cymraeg yn Abertawe? Sothach!!

Mae pobol yn ddim ond rhy hapus i ddweud wrthoch chi ‘does dim siaradwyr Cymraeg yn Abertawe’ fel dyn ni’n crynu’u pennau – “y fath trueni yw e”, maen nhw’n dangos i ddweud.    Sori, ond dw i ddim yn deall hyn.  Dw i’n gallu ffeindio pobol yn Abertawe sy’n siarad Cymraeg trwy’r amser!

Dyw’r broblem ddim diffyg siaradwyr Cymraeg.  Mae llawer o bobol yn Abertawe sy’n siarad Cymraeg (fel dw i wedi dweud nifer o waith o’r blaen). Ffeindio’r siaradwyr ‘na yw’r broblem.  Pam?  Achos bydd neb yn trial siarad Cymraeg â’i gilydd, mae hynny yn pam! Dyw llawer o bobol ddim yn cerdded o gwmpas y siopau yn siarad Cymraeg.  Ond os dych chi trial siarad Cymraeg â pobol, bydd pobol yn siarad â chi, yn aml.  Er enghraifft:

Es i siop fferyllydd yng Nghilâ bore ‘ma.  Tra yma, penderfynais i fynd i’r banc.  Felly es du mewn banc a gofynnais i glerc ‘Dych chi’n siarad Cymraeg?’  Dw i wastad gofyn clercod os siaradant Cymraeg.  Weithiau mae e’n talu, weithiau dyw e ddim.  Ond mae e wastad gwerth yn ceisio, yn fy marn.

Beth bynnag, “Na, mae flin ‘da fi,” meddai, “dych chi’n siarad yr iaith yn well na fi!”  Wel, wrth gwrs, roeddwn i’n siomi.  Ond dywedais rywbeth neis iddi hi a throis i adael. Roedd hen wraig yn sefyll nesaf i fi, gwneud busnes gyda chlerc yn y ffenestr nesaf.  Clywodd hi fy nghwestiwn i’m clerc a’n sydyn dechreuodd hi siarad â fi yn Gymraeg!  Fel efallai byddech chi’n dychmygu, roeddwn i’n hapus iawn iawn!  Roedd sgwrs hyfryd ‘da ni, sefyll yn y lobïo.  Ar ôl ychydig o funud, gwahanon gwmni a dywedodd hi ‘Neis i gwrdd â chi’ i fi a fi iddi hi.  Mae’r cyfarfod ‘na eithaf gwneud fy niwrnod, gallaf ddweud wrthoch chi!

Felly, tro nesaf bod chi’n siopa neu gerdded o gwmpas y ddinas, pam lai trial siarad â phobol eraill yn yr iaith o Nefoedd?  Efallai byddech chi’n synnu’n ddymunol. 

Caerfyrddin Heddiw

Yn wreiddiol roeddwn i’n mynd treulio amser ceisio i ffeindio siwt nofio yn Fforestfach.  Ond trodd y tywydd neis felly penderfynais yrru i Gaerfyrddin a ffeindio’r Tafarn 3 Eog yn lle.  Pam y tafarn ‘na?  Wel, bydd gig Cymdeithas yr Iaith yn digwydd yna wythnos ‘ma a dw i’n bwriadu mynd.  Ers dw i wastad cael fy colli, dw i wedi dysgu i ffeindio lleoedd cyn i fi fynd.

Beth bynnag, es i Gaerfyrddin prynhawn ‘ma ar ôl stopio yng Nghilâ i lysiau.  I fy syrpreis, mae dyn yn y siop llysiau yn siarad Cymraeg!  Gwych!  Nawr bydda i’n siopa yna mwy aml.

Bant i Gaerfyrddin.  Stopiais yn McDonalds i Coke.  “Ga i Coke, os gwelwch yn dda.  Canol. I fynd.” meddai fi, eithaf balch i ddweud hynny gyda chyflym cywir.  Meddyliais fod y plentyn tu ôl y cownter yn deall fi.  Na!  Rhodd Coke Diet i fi (ych-y-fi!  Dw i’n casiáu Coke Diet).  Yn drist, doeddwn i ddim yn darganfod hynny tan roeddwn yn ôl ar y ffordd.  :O(

‘Still’, dywedais bopeth yn Gymraeg felly dim ots!

Wrth gwrs, allais i ddim yn ffeindio’r stryd bod i’n moyn.  Felly ar ôl tamaid bach o amser, stopiais yn Uwchfarchnad Tesco meddwl y bydd map ‘da nhw.  Wel, dim yn y brif siop.  Gofynnais y swyddog diogelwch am fap.  Cymro Cymraeg yw e!  Gwych iawn iawn iawn.  Cawson ni sgwrs neis iawn  gan mwyaf yn Gymraeg.  Dywedodd e fy Nghymraeg yn dda iawn.  Dych chi’n meddwl bod ‘chuffed to bits and pieces’ dw i?  

AC deallais bron popeth bod e’n dweud. Siaradasom am rygbi, pêl-droed Americanaidd, ei swydd, yr ynganiad gwahanol o bobol yn ardaloedd gwahanol o Grymu, y rhif o siaradwyr Cymraeg yn Abertawe, Caerfyrddin a Llanelli – jyst llawer o destunau gwahanol.   O – hyfryd iawn.

Dwbl Neis yw e pan ddych chi’n siarad â dieithryn ac maen nhw’n gallu deall chi a chi nhw.  Dw i ddim yn gallu disgrifio beth teimlad gwych yw hynny!

Doeddwn i ddim yn siarad fel iawn â’r gwragedd yn yr orsaf petrol ble es i’r map.  Roeddwn i’n ‘tongue-tied’ pan trialais ddweud ‘diolch am eich cymorth’.  Dw i’n meddwl, efallai, achos bod i ddim arfer defnyddio ‘eich’ yn hytrach na ‘ti’.

Dim ots.  Ffeindiais Tafarn 3 Eog, roeddwn i’n gallu ymarfer fy Nghymraeg, a mwynheais fy mhrynhawn yn fawr.

O, dw i mor yn caru gyda’r iaith ‘ma!

Cymraeg Am Byth!!!